Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD, ARWEDDAU PRESENNOL DUWINYDDIAETH, Gofynai Pilat i'r Iesu, " Beth yw gwirionedd ? " gan gredu, hwyr- ach, na wyddai Efo na neb arall. Ar ol Pilat cododd llawer, uc yn eu plith, Hume ac ereill yn ein gwlad ni. i liaeru nad yw yn ddichonadwy dod o hyd i'r gwirionedd, neu sicrwjTdd ar unrhyw bwnc. Ni fedr cynheddfau y meddwl, meddir, ddod o hyd i ddini ond ymddangosiadau —prydferth, maeii wir, rai o honynt, fol yr enfys, ond fel yr enfys hefyd yn sydyn gilio o'r golwg. Y mae yn wirionedd nas gellir ei wadu fod barnau y prif feistriaid mewn athroniaeth a gwyddoniaeth yn cyfnewid yn barhaus. Ac ni all neb ddarllen ein llenyddiaeth grefyddol, na gwrando y pregethau a draddodir yn ein haddoldai o Saboth i Saboth, heb ganfod yn dra eglur fod barnau duwinyddol yr oes yn cyfnewid fel y lleill. Yn wir, hoffir dweud fod llai o sicrwydd, ac íelly fwy o gyínewidioldeb yn y cylch hwn na'r un arall. Gwrthodir mewn lleoedd uchel i dduwinyddiaeth yr hawl i gael ei rhestru ymhlith y gwyddorau o gwbl, am y dylai pob cyfi'cs ffydd gael ei hail ysgrifennu, meddir, o leiaf bob chwarter canrif. Ond nid teg mewn un modd yw'r gwrthodiad ymai roddiiddi oi safîe priodol, oblegid nid yw'r gwahaniacth sydd rhwng barnau Origen hen, ac eiddo Dorner, agos mor hanfodol â'r un a geir rhwng barnau Ptolemy a'r Astronomer Royal. Yn y byd crefyddol "uniòngred," ni phetrusir edrych arni fel gwyddor, ond amheuir a ydyw yn agored i gynnydd a gwelliant. Dywcdir gan rai nad oes dim wedi ei gael allan er amser y Tadau Puritanaidd ; nad oes eisieu dim yn ychwaneg, ac nad oes dim i'wgael. Pan ddywedir hyn, anghofir un o brif egwyddorion y Diwygiad Protes- tanaidd, scf nad oes un dyn, na nifor o ddynion, i gael eu gosod i fyny fel dchongiwyr anffaolodig o OraclauT Nef i'r Eglwys, a bod duwiuydd- iaeth, fel y gwneir hi i fyny o farnaü dynion am ffeithiau y Datgaddiad perffaith a gorffenedig a roddodd yr Ỳsbryd Glàn, yn debycach i beth byw yn tyfu, ac felly yn taflu i ffwrdd yn awr ac yn y man bethau nad ydynt i fod yn y corff cyfîawn, yn gystal ag yn troi sylweddau ereill i'w natur ei hun, nag i adeilad orfibnedig o ddefnyddiau nieirwon a digyf- newid. Dywed Joscpli Cook yn nodweddiadol iawn ar y pen yma :— " The final theology of tlie world will be written by the iron finger of the law of tlio suryial of tho fittest." Áddefìr o'r tu arall gan y rhai y oyfeirir atyiít', fod pob gwyddor arall yn agored i gynny'dd a gWelliant. Os yw hyn, meddwn, yn wir am y lleill, y mao felly hefyd am dani hithau. Ond dywodir fod perthynas Duw â'r byd a'r oÜ sydd ynddo, yn anghyfnewidiol, a bod Iesu yn ei Bcrson a'i lawn mawr yr "un ddoe, heddyw, ac yn dragy- wydd." Gwir; a gwir hcfyd fod porthynas yr haul ai' ddacar o ran eu,