Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GYMRAES. Cyf. I.] CHWEFROE, 1850. [Rhif. 2. gllrgo&otu EFA. Nid anhawdd olrhain ei hachau. 3Mid oes eisiau dilyn rhestr hirfaith o henafiaid er dyfod o hyd iddynt. Y maent raor syml a mawreddog a hi ei hunan—yr oeddynt fel ei hun yn ddi-ail—ni agorodd un ferch ei llygaid ar y hyd fel hi—ni wenodd y byd ar un baban fel y gwenodd arni hi Ni dderbyn- iodd ei chusau cyntaf oddiwrth Dad na Mam ond oddiwrth ei phriod—ni wybu erioed beth oedd mynwes Mam—ni chafodd hi fel mil myrdd o'i phlant blethu ei dwylaw am wddf ei thad—dieithr iddi hi fn helyntion mabandod—hi chymerwyd hi erbyn y breichiau i ddysgu iddi gerdded—nichafodd un codwm ar y ddol lâs—ni redodd un anifail barus ar ei hol, ond synai holl anifeiliaid y maes wrth edrych arni—ymblygent mewn ufudd-dod ger ei bron. Fel y dywed Talhaiarn :— " Gwelid y llew i'w gwyliaw, A theigr du yn llyfu'i liaw." Yr oedd hoíl anian mewn heddwch á hi—canodd yr adar gerdd ei genedigaeth — ysgydwodd awel y boreu ei chydynau, y rhai a eneinid gan y gwlith—curodd y dail eu dwylaw ar ei hymddangosiad, a phlygai y blodau i gusanu gwadn ei throed. Y mae hanes gwneuthuriad Efa yn cael ei roddi mewn hèn lyfr a elwir y Dechreuad, gan Awdwr o'r enw Moses. Efe a ysgrifenodd y coíiant goreu a chywiraf o honi. Fei Ilawer hen awdwr arall, dirmygir Moses gan yr anystyr- iol a'r anghyfarwydd. Ond ni welodd y byd ei debyg hyd yma. Efe sydd wedi ail-godi y lièn oddiar heìyntion y cynfyd cudd, a'i law ef yn unig sydd wedi ei dal i fynu er ein galluogi i weled dygwyddiadau boreu amser. Örii' buasai ef, buasai mor dywyll a'r fagddu. Y mae cofiant Efa gan Moses yn fyr a chynhwysfawr. Yr achos o'i gwneuthnriad, meddai ef, oedd am na chafwyd yn mysg pob peth byw, ymgeledd gymhwys i Adda. Ar ol enwi pob peth byw, nid oedd dynes yn eu niysg. Gwelodd Adda ei unigolrwydd, a theimlodd. Rhodiai y llewes wrth ochr y llew, a dilynid yr hwrdd gan y ddafad. Yr oedd i bob milyn ei gymar ond dyn. Wrth weled hyn, dywed- odd yr Arglwydd Dduw, nid da bod y dyn ei hunan,—-ac efe a " wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd : ac Efe a gymerth nn o'i asenau ef, ac a gauodd gig yn ei l!e. A'r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai Efe o'r dyn yn w;raig, ac a'i dwg at y dyn."— Nid oes un darlun lliwiedig o'n Mam Efa wedi cyrhaedd yr oes hon. Y mae llawer un wedi ei darlunio mewn geiriau,—ond nis gallwn sicrhau fod neb wedi bod yn llwyddiannus. Nid yw Moseswedi dywedyd gairam dani, onide