Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GYMEAES. Cyf. II.] MAWRTH, 1851. [Rhif. 3. &îrgoffotu TRAEtHODAÜ I DADAU, A MAMAU, A PHLANT. GAN Y CYMRO BACH. HANES Y MAB AFRADLON. (y drydedd ran.) Wedi i Zachy fod ryw dalm o amser yn yr ysgol, aeth yn achos llawer o boen i bawb a ymwelent â thý ei dad, ac yu neillduol i weinidog y synagog, oblegid byddai rhaid i Zachy bach gael dangos ei wybodaeth a'i alluoedd, neu yn hytrach ei anwybodaeth a'i anallu, i bawb o'r ymwelwyr. Er na wyddai Zachy fwy am y llythyrenau nâ Dic Shon Dafydd, eto, ei fam, ei nain, a'i fod- ryboedd a dybient ei fod yn phenomenon mewn dysgeidiaeth. Pan oedd penaeth y synagog yno ar ryw dro, galwyd ar Zachy i ddangos ei alluoedd areithyddol, drwy adrodd galarnad Dafydd ar ol Saul a Jonathan ; oblegid ei fam, druan, a feddyîiai bob amser, er pan enwaedwyd yr un bychan, fod ynddo ddoniau tu draw i gyffredin, ac y byddai iddo fod yn rhyw ddyn mawr iawn, mewu swyddi uchel—os nid yn aelod yn llŷs y sanhedrim. Yr oedd Zachy hefyd yn credu ei fam, ac yn meddwl y byddai yn rhyw un mawr. Yr ydwyf wedi sylwi lawer gwaith mai un o'r pethau mwyaf anhawdd yn holl gylch anianyddiaeth yw gwneuthur i ddyn dewi, ar ol dechreu bod yn ŵr cyhoeddus. Ciywsom fod cythreuliaid mud a byddar yn cael eu bwrw allan, ond pwy erioed a glywodd am osod taw ar gythraul llefarog a siaradus? Gosodwyd Zachy a'i ddoniau a chwbl i sefyll o flaen y penaeth, ond ni allai ei fam a'i nain gyduno am y dull goreu iddo sefyll. Mynai un iddo osod y troed deau yn flaenaf; na, na, meddai y Uall, mae pob un yn gosod y troed chwith yn flaenaf wrth areithio. Nid oedd y penaeth, am ei fod yn ddyn lled gall, yn cynyg rhoddi ei feddwl ar y pwnc pwysig hwn. Aeth hefyd yn ddadl yn nghylch dwylaw Zachy. Un a fynai iddo estyn un Uaw allan ; un arall a dybiai y byddai yn well iddo osod ei ddwylaw ar ei gefn. Ond beth bynag oedd barn yr hen wragedd, Zachy a osodai un Uaw ar ei lygaid ! Wel, galwyd arno i ddechreu:—"A Dafydd a laddodd—a laddodd Saul a Jonathan," " Nid fel yna, fy machgen anwyl I," meddai ei fam, yr hon oedd wedi treulio Uawer o'i horiau gwerthfawr i geisio ei ddysgu. " Fel hyn y mae," meddai y fam eilwaith : " A Dafydd a alarnadodd," &c. Aeth Zachy yn y blaen eü- waith: " A Dafydd a laddodd—a laddodd Saul a Jonathan," &c. Fel hyn y