Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y G-YMRAES. Cyf. II.] TACHWEDD, 1851. [Rhif. 11. ^ìrgofíotu Y CODWM ERCHYLL. Cyrhaeddodd Ann Williams i ben ei thaith yn ddiogel, a chyrhaeddodd ei gwae, ei gofid, a'i gwarth gyda hi yr un mor ddiogel. Yroedd ei mynwes lawn, nid yn unig yn breswyl siomedigaeth, ond hefyd yn etifeddiaeth Euogrwydd. Ni yniadawodd a'i cbartref yn forwyn bur, ond yr oedd wedi colli ei rhinwcdd. Denasid hi oddiar lwybrau diniweidrwydd gan Morris Morris, a thra yr oedd ei rhieni yn prysuro i'w hanfon ymaith o'i gyrhacdd, ychydig feddylient ei bod wedi syrthio yn ysglyfaeth i'w chwantan yn barod» Yr oedd eu hoîl ddarpariadau dranoeth wedi dydd gŵyl. Buasai y lleidr i mewn cyn i'r drws gael ei gau. Yr oedd Ann druan wedi ei dàl yn gaeth dan iau Ilygredigaeth, ac er ei hanfon o'i chartref, dygai goríF y farwolaeth gyda hi, nes yr oedd ei bron yn llawn o wae diseibiant. Nid oedd gwaẃr y boran yn ei ymlid ymaith, na thywyllwch y nos yn eì guddioo wydd ei llygad. Yr oedd ei chyflwr yn un ofnadwy i ddynes ieuanc fod ynddo,—dynes, yr îìon nad oedd neb yn ei drwg-dybio, a rhinwedd morwynol yr hon gynt a fuasai y fath, fel mai prin y gallai hi ei hun gredu y gwirionedd am ei halog- rwydd gresynus. Dan deimìadau o'r fath hyn y treuliodd rai wythnosau yn nhŷ ei modryb, heb dderbyn boddhad oddiwrth un gwrthrych yr edrychai ei Jlygaid arno, nac oddiwrth un hyfrydiais a darawai ar ei chlust. Nid oedd un o synwyrau y corfF yn gweini er ei chysur fel arferol, ac ni chaffai oddiwrth syndebau y meddwl, ond blinder a gofid. Nid oedd iddi mirhyw gydymaith ond y gnfid cudd. Nid ymadawai efe â hi am eiliad. Yr oedd yn ei dàl yn gaeth pan yr hunai, yn cynhyrfu breuddwydion brawychns yn ystod ei chwsg, a phan ddeffröai, yr oedd ef yn bresenol fel angel diaiedd. Ymdrechai niodryb Ann "Williams ei gwneud yn ddedwydd. Adroddai iddi chwedlau y rhai a allent wneuthur y chwerthingar yn fwy chwerthinllyd, a chymerai hi i weled golygfëydd a allasent wneud y llawen yn llawenach. Ond yr oedd yr hoîl ymarferiadau hyn yn gwasgu ychwaneg o wermod i gwpan ydoedd yn rhy lawn o hono yn barod. Ymdrechai Ann gelu ei gwae, fel aderyn clwyfedig, yn tynu ei aden dros y clwyf o'r hwn y gwaedai i farwolaeth. Gwnai bob ymdrech i lethn yr ochenaid, ac i sychu ffynoneìi y deigryn. Ond os attelid yr ochenaid dros y wèf'iis, yr oedd fcl y cancr yn ysu y galon ; ac os na adewid i'r deigryn wlychu y rydd, yr oedd fel Ilosgwy yn crebychu yr enaid â'i boethder. Er yn llestr gwàn yr oedd yn Ìieẁîr digoíäint. y