Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GEDEON; NEÜ, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. " BETH SYDD GAN DDYNION GONEST i'w OFNI ?" CYP. II.] IONAWR, 1854. [Rhip. 1. DEDDF 1835. fí^Oît roddes fôd i'r "Wesleyaethfel y mae," ag sydd wedi disgyn ar ein clybod mor fynych y blynyddoedd hyn. Os yw y ddeddf hon yn or- thrymus yn ei pherthynas â'r gwein- idogion, y mae yn llawer mwy felly y n yr awdurdod annghyfiawn a ddy ry i'r gweinidogion dros yr aelodau. Nid mynych y dygir hi i weithred- iad; canys pan y mae dynion yn syrthio ibechod, enciliant o honynt eu hunain. Ond os bydd neb yn ddigon hyf i gwestiyno awdurdod y Conference neu y gweinidogion, cant deitnlo pwys eu melldithion yn ddi- oed. Rhoddwn i chwi sylwedd y ddeddf ac yna hawdd fydd deall ei natur a'i dybenion. 1. Os hydd i aelod o'r eglwys gael ei gyhuddo wrth y gweinidog, ei fod yn euog o absenoli ei hunan yn wir- foddol a gwastadol o'r class, neu un- rhyw foddion arall o ras, heh fod ganddo reswm digonol dros hyny; neu «Iroseddu yn gyhoeddus ddeddf Duw, neu reolaa neillduol y Cyfun- deb,—os na wedir y íi'aiLh, neu wneyd amddiffyniad digonol,—geill y gwei- nidog, os barna fod yr achos yn galw am ddiardde^liad, yn dawel, atal ei docyn cymdeithasol, a thynu ei enw 0 lyfr y class. Cofnodau 35, tudal. 138. 2. Os hydd yr aelod yn gwadu y cyhuddiad, ac yn galw am brawf, fe ganiateir hyny ger bron cyfarfod y blaenoriaid ; ac os bydd y mwyaf- iaeth o'r blaenòriaid, y rhai a bleid- iasant, yn cael prawf digonol ei fod yn troseddu yn wastadol a gwirfodd- 01 reolau yr Ysgrythyrau, neu y rhai Wesìeyaidd, a rhoi eu barn i'r per- wyl hwnw, yna cyfiawnodd y cyfar- fod ei holl ran o'r ddyledswydd boenus. Wedi hyny mae yr achos i'w adael yn nwylaw yr arolygwr— ynddo ef y gorwedd yr holl hawl a'r ddyledswydd o benderfynu y mesur- au a fahwysiedir at y troseddwr—pa un ai diarddeliad ai cerydd, yn ddir- gel neu yn gyhoeddus. Cofn. 35, tudal. 153, 154. 3. Os hydd anfoddìonrwydd o barth i'r ddedryd a gyhoedda yr ar- olyg\vr, gall y person a niweidiwyd apelio at gyfarfod blynyddol gwein- idogion y dalaeth; ac os bydd yn anfoddlon wed'yn, ni rwystrir ef i anfon ei gŵyn i'r Conference. Hefyd, gall y person a ddiarddelwyd ddewis