Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GEDEON; NEU, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w ofni?" Cyf. II.] CHWEFROR, 1854. [Rhif. YR YMDRECH CYNTAF AM DDIWYGIAD WESLEYAIDD. JpttU oes un gyfundrefn ddynol yn berffàith, ac nis gall creadur ffàel- edig ddyfeisio un anffàeledig. Pa angen sydd am ychwanegiad at y goìeuni a ddaeth o'r nef ? Y rnae llawer o gyfundraethau dynol yn llawn o athrylith, dysg, doethineb, a daioni, ae wedi lleshau y byd mewn amryw foddau; a'r awdwyr yn cael eu rhifo yn mhlith y gwr- oniaid dyngarol yn nheml clod. Llwyddodd rhai o'r cyfundraethau hyn mor nodedig, nes yr oedd eu hawdwyr yn gwenieithio iddynt eu hunain y parhai eu dyfeisiadau mewn bri am oes y ddaiar! Yn hyn caí'wyd mynych siomedigaethau poenus, nes y gorfodir ni i ddaríbd â'r dyn, a phwyso ar air Duw, yr hwn a saif byth. Pan syllwn ar gorff lluosog, parch- us, a dylanwadol y Wesleyaid yn cael ei gynhyrfu yn aruthrol, ei ys- gwyd hyd ei ymylon, a'i ddryllio mor fynych, y mae yn naturiol a theg i ni i ymholi am yr achos, y gwir achos o'r effeithiau echrydus hyn. Yn.ol fy marn ostyngedig i, ffurf- iwyd y cyfundeb gan ddyn duwiol- frydig a doeth, pur o ran ei egwydd- or, santaidd o ran ei ddybenion, di- flino mewn ymdrechion; ac yr oedd yn un ó'r dynion goreu a.r ol yr apos- tolion, a llafuriodd yn helaethach ha hwynt oll. Nid oedd ond dyn, ac heb ei ysbrydoli, fel Paul; ac mewn canlyniad nid yw y gyfun- drefn ond dynol; a chabledd íÿddai dyweyd fod " pechu yn erbyn Wes- leyaeth yn bechu yn erbyn Ci'ist!" GallaiyParch.W.M.Buntingollwng brawddeg ryfygus fel yna o'i enau, dan deimladau cynhyrýus yfoment; ond diau nad all ei chredu pan yn adfeddwl yn ei fynydau tawel a hun- an-feddianol. Yr oedd Mr. Wesley trwy ei oes yn bleidiwr brwdfrydig i'r Eglwys Wladol; ac ni fynai er dim alw y cymdeithasau yn " eglwys." îíid oedd am i'w "Helpers" (ei enw ef ar y pregethwyr) gael eu galw "Parch- edigion ;" ac ni oddefai iddynt wein- yddu yr ordinhadau: ac nidoedd ei ddilynwyr i gael eu derbyn o ddwy- law neb ond offeiriadau Eglwys Loegr! Wedi huno o Mr. Wesley mewn tangnefedd, dechreuwyd anesmwy-