Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GEDEON; NEÜ, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w opni?" Cyp. II.] MAWRTH, 1854. [Rhip. 3. YR YMDRECH AM DDIWYGIAD YN NGHYMRU. Jîiíî gallwn mewn un raodd fyned heibio i hon yn ddisylw, am mai teg fod "ar gof a chadw" wir hanes am boh ymdrech am ddiwygiad cref- yddol. Bu hon yn ymdrech ar ei phen ei hun, ac heb fod mewn cys- ylltiad âg un symudiad arall yn Lloegr. Nid effaith cydymdeimlad â rhai wedi eu diarddel yn annynol, annghristionogol, ac an-Wesleyaidd ydoedd. Nid canlyniad dylanwad araethyddiaeth un wedi cael ei somi am swydd ydoedd. Nid oedd gan y Cymry un gweinidog a wyddai am ddichellion y rhai ydynt yn dal aw- enau Wesleyaeth yn eu llaw i'w har- wain. Lled anhawdd gan y Cymry gyn- hyrfu ; canys hwy a orweddant yn hir dan eu pynau yn amyneddus, o achos crynant rhag ofn gwneuthur drwg wrth geisio gwneyd daioni, ac arswydant edrych am hir amser yn wyneb diffygion. Dywedir am y Cymro, y goddefa gareg yn ei esgid nes y bydd ei droed yn gwaedu, cyn yr aiff i'r drafferth i dynu ei esgid, er cael gwared o honi! Ond un lled groen-deneu ydyw y Sais, ychydig a oddefa efe heb lefaru nes i bawb ddeall ei fod yn teimlo. Gellwch benderfynu mai nid heb achos—un pwysig—gicir achos, y cynhyrfa y Cymry : a dywedwn yn ddiofn fod yr Ymdrech Gymreig, o ran ei nodwedd, yn rhesymol, ac i raddau gormodol dan ddylanwad gwylder. Os arferwyd eithafoedd yn y ddadl, bu hyn mewn gofyn rhy fach, ac nid mewn ceisio gor- mod. Gormod o dynerwch, ac nid llymdostedd, oedd eu bai; ac yr oedd felly, fel y dangoswn. Ymddengys mai Mr. T. Jones, Le'rpwl, oedd y Cymro cyntaf a ymadawodd â'r Wesleyaid, ac ym- sefydlu, yn nghyda yr ychydig a'i dilynodd, yn Eglwys o Wesleyaid Annibynol, yn Le'rpwl. Cymerodd hynle Maiy 7fed,1818. Ymddengys oddiwrth lythyr Mr. Jones, yn yr "Amddiffyniad i'r Llafn Aur," &c, mai yr achos o'i ymadawiad ef oedd, gwaith cyfarfod blaenoriaid Beri's Garden yn pasio deddf (a hawdd gwybod pwy "Satan" oedd awdwr y bill hwnw yn erbyn y tlodion) " Na byddai i neb o'r tlodion gael dimai o'r drysorfa oni chyfranent eu harian wythnosoì a chwarterol