Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<=^-^Aa^l4 /"0 ^1^1^ GEDEON; NEÜ, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w ofni?" Cyf. II.] EBRILL, 1854. [Rhif. 4. TREM AR YMDRECH 1835. le MAE y flwyddyn hon ar dafod pob Diwygiwr, a'r darlithwyr o bob gradd yn ei chwareu ar benau eu bysedd; a'r hynodrwydd a berthyna iddi yw y " ddeddf" a basiwyd yn- ddi, er ei gwasgu ar bob dosparth yn yr undeb. Wedi y flwyddyn 1797, ac i blaid Kilham ymadael, bu y- chydig o dawelwch. Nìd heddwch oedd, ond dystawrwydd mud. Y mae gan y volcano ei amserau o gwsg ymddangosiadol; ond rhod- iwch o amgylch ei ymylon, a gwran- dewch, a chewch glywed cynhwrf yr elfenau. Edrychwch i lawr i'w geudod ofnadwy, a gwelwch fod tân yno! ac nid oes arno ddim ond eis- ieu anadl, na luchîai ddarnau o'r mynydd i beclwar gwynt y nefoedd. "Iachàu briwiau merch fy mhobl" yn ysgafn a wnaeth ffug-feddygon y Conference; canys cyn hir dacw y clwyf yn tori allan gyda mwy o rym ; a bu yr ystorm hon yn fwy echrys- lon na'r un flaenorol; a diau y cant ystorm ar ol ystorm, ac ystorm wedi hyny> nes y ceir diwygiad gwreidd- ìol, neu lwyr ddinystrio y Confer- ence. Ymddengys mai "dichell santaidd" i gyd, er mwyn süo y bobl í gysgu, i'r gweinidogion gael am- ser i wneyd llyffetheiriau i'w rhoddi am eu traed a'u dwylaw, a chlo am eu geneuau, oedd " Concessions" bach 1797! Hawdd deall hyny bellach. "Yr oedd pawbybuom yn ym- ddiddan â* hwy," ebai y Parch R. Eckett, "yn cyd-dystiolaethu, yn weinidogion yn gystal ag eraill, mai yn ol deddf '97, ac arferion y cyfun- deb wedi hyny, nad oedd un dyn i gael ei ddiarddel o'r eglwys, nac un blaenor na swyddog gael eu symud o'u swydd, heblaw trwy gydsyniad unol y cyfarfod blaenoriaid neu y chwarterol. Deallwn hefyd fod y cyfarfod blaenoriaid yn meddu yr hawl i ddadlu pob cwestiwn a fernid a fyddai o les i'r eglwys neu y cyf- undeb. Ond yn y flwyddyn 1828, mewn canlyniad i'r ymdrafodaeth o barth i'r ymrafael yn nghylch dwyn organ i mewn i Gapel Brunswick, Leeds, fe daenwyd barn wahanol i hyn. Eithr ni dderbyniodd y farn hòno gadarnhad y Conference hyd 1835,