Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GEDEON; NEU, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w ofni?" Cyf. II.] MAI, 1854. [Rhif. 5. YR YMDRECH BRESEHOL AM DDIWYGIAD. JlYGWYD yr Ymdrech hon i'r maes gan y "Question by Penalty." Ymosodwyd ar dri o wyr grymus a nerthol. Ni ymostyngai Everett, Dunn, a Griffiths i'r " ddelw," serch fod Bunting, Jacltson, ac Oshorne yn chwareu yr offerynau cerdd. Lle y bydd Pab, rhaid cael Chwil- lys i'r man hwnw. Daeth un, y Saintly President hwn, âg egwydd- orion pwysig i'r bwrdd, y rhai a gaent ea dadlu yn oleu, grymus, a didderbyn wyneb. Mae yn demtas- iwn i ddyn pruddglwyfus chwerthin am ben honiadau anwyl yr "urdd" mewn Wesleyaeth. Y maent yn ddigyffelyb tu yma i Rufain. Os cawn un efaill yn mynwes y Scarlet Lady, ni gawn y llall yn mynwes y Clique. Y mae y cyhuddiad yn bwysig, ond nid yw yn fwy felly na gwirioneddol. Diarddelasant fìl- oedd o'r dynion goreu yn y cyfun- deb, er mwyn, meddent, cynal i fyny "integrity" yr "united pasto- rate" a "godly discipline"! Nid oes dim llawer o swyn mewn geiriau tlws, tyner, esmwyth, balmaidd fel yna. os na cheir rhywbeth mwy na geiriaw, ac nid oes llawer o ddy- chryn mewnrhyw fwbachodoeiriau, megys " Madicals" a " Chartists," i'r oes hon. Y mae dynion bellach yn meddu digon o synwyr i edrych heibio i enwau, at egwyddorion ac ymarferiadau dynion,a barnant wrth íîrwythau, ac nid honiadau. Gwell ganddynt gael eu hawliau, cyfìawn- der, a rhyddid, dan yr enw "Radi- caliaeth," na chael eu caethiwo, eu sarhau, a'u gorthrymu, dan yr enw "dysgyblaeth dduwiol." Rhaid craffu ar y cynhyrfiad. Geilw y gweinidogion y movement yn un drwg a diangenrhaid, na ŵyr y Reformers ddim beth sydd arnynt eisieu, nac am beth y maent yn cy- nhyrfu, ac nad ydynt ond set o ddyn- ion dilywodraeth, ac wedi cael eu siomi am ryw bethau gyda hwy, ac mewn canlyniad yn ceisio codi re- beldod yn y corff. Er mwyn symud yr haeriadau yna o'r ffordd, cy- hoedda y Diwygwyr eu hegwydd- orion : bydd i ni eu dy fynu, a gwneyd ein nodiadau arnynt. GWRTHWYNEBANT Y CANLYNOL- ION O EIDDO Y CONFEREECE:—