Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GEDEON NlilJ, DDIWYGIWR WESLEYAIDÜ. "beth sydd gan ddynion gonest i'w ofni?" Cvp. II.] GORPHENAF, 1854. [Rhip. 7. "DIFFYNIAD WESLEYAETH" YN Y GLORIAN. DOSPARTH Iaf. "SwRANDEWCHyddwyochr, chwiliwch,bernwch, penderfynwch; yr hwn na wna hyn, nid yw yn deilwng o'r enw dyn; y mae yn wan os ni wna."—Y Parch. J. Rat- tenbury. 1. "A ddarllenasoch chwi y Di- ffyniad canipus, gan y Parch. R. Hughes?" ebai amddiffynwr aidd- gar i'r Conference wrth gyfaill yd- oedd yn cloffi rhwng dau feddwl. "Do, yn fanwl, pwyllog, a diduedd," oedd yr ateb. " Onid ydyw wedi eich llwyr-argyhoeddi fod honiadau ein gweinidogion i'r fath awdurdod yn rhesymol a Biblaidd?" "Bu iddo fy argyhoeddi yn gwbl o'r ang- enrheidrwydd am ddiwygiad, ac an- fonais yn ddioed bunt i'r Refortn fund," ebai yntau yn syml. Ym- ddengys Mr. Hughes i mi yn y Di- ffyniad fel un o ddysgyblion yr hen Egob Willcs, yn ceisio cymeryd gwib-daith o Crùghywel i'r lleuad; ac ni synem wedi y siom, ei gly wed yn griddfan fel y dyfrgi hwnw oedd yn awyddus i ehedeg, ac a ddar- bwyllodd yr eryr i'w gymeryd i í'yny i'r awyr, iddo gael gwneyd y prawf! Druan, gan gynted ag y gollyngodd yr eryr cf, daeth i lawr fel plwm, a disgynodd ar gareg; ac wrth drengu, teimlai ei fod yn derbyn cosp yr uchelfrydig. A ddianc yr " Athronydd" rhag yr un dynged? Amser a ddengys. Buasai rhaid cael twyll-ddadleu- wr mwy golygus na Georgias, neu ysgolheigddyn mwy dichellgar nag Abellard, i allael perswadio dynion sydd â'u llygaid yn eu penau, fod croen Ethiopaidd y Conference yn wỳn! Y mae Mr. Hughes, yn ei '' Ragdraith" yn hunan-ddigonol dros ben! Diolcha nad yw ef ddim fel dynion ereill; ac â mor liyf à hysbysu nad all ddysgwyl çwrdd à neb fel ei hunan mawr! Purdirion a gofalus am deimladau ereill, onide? Y rnae yn caru ei hun yn " gryf fel angeu," modd bynag! A i helaethu yw hyn? Dyma ei eiriau bostfawr: — "Ond y mae mor ym- wybodol ddarfod iddo wneyd ei oreu i ymgyrbaedd yn gywir at, ac ym- gadw yn sefydlog wrth y gwirion- edd, ac mor hyderus fod yr oll a ddygwyd yn mlaen ganddo o blaid