Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ct E D E 0 N ; NBU, DDIWY&IWB, WESLEYAIDD. u BETII SYDD GaN DDYN GONEST l'w OFNI V CYF. III. EBRILL, 1855. Rhif. 4. Y FASIACH FEDDWOL Darlith I. DYLEM fyw i wellhau y byd, ac i wneuthur ein cydgreadur- iaid yn ddedwydd ; ac y tnae lia- pusrwydd niewn dedwyddu ereill ; ac nis gall íbd cysur inewn gwerthu diodydd i ysbeilio dynion o'u har- ian, eu hiechyd, eu synwyrau, a damnio eu heneidiau. Pwy sydd yn niweidio fwyaf ar y wladwr- iaeth, y dynion sydd yn lladd meddwon, ynteu y dynion hyny sydd yn creu meddwon, trwy ddar- paru, gan gynted ag y symuder un tô ymaith gan angeu, dô arall i lanw eu lle, gan gadw trwy hyny mewn bodolaeth feddwdod o gen- hedlaeth i genhedlaeth ? Pwysed y darllenydd y gofyniad yn ddi- duedd, a bydded i'w gydwybod barotoi yr atebiad. Y mae y pwngc yn bwysig, am hyny dylid eichwilio; ac yn agored i gael ei gamddeall, am hyny gweddai i ni fod yn dra gofalus wrth ei drafod. Rhesymol i ni ymddiosg o bob rhagfarn, craftu yn ddiduedd, a thraethu yn syml a dilen ein barn am y fasnach hon. Braint uchel yw cael byw mewn oes ag y mae cymaint o ymdrech yn cael ei wneyd er ceisio ded- wyddoli dyn, ac ail-baradwyseiddio y dalaeth hon o ymerodraeth lor. Gwneir egni dyfal gan ddyngarwyr, gwladgarwyr, a christionogion, i symud o'r ffordd bob peth sydd yn niweidio, darostwng, ac yn anned- wyddu dyn, trwy ffurfio deddfau, a sefydlu cymdeithasau a dueddant i'w ddyrchafu, ei urddasu, a'i ddedwyddu. Gwir fod goleuni ysplenydd, trwy ysgrifau campus, a darlithiau dirwestol ardderchog, wedi ei daflu ar y fasnach dan sylw, ond ni fynegwyd eto mo'r haner: canys y mae ei dylanwad niweidiol yn annarlunadwy ! !— Rhaid eael goleuni byd arall i'w gweled yn ei holl echryslonrwydd. Dywed Lord Bacon, " Nid oes un trosedd ar y ddaiar werdd yn di- nystrio cymaint ar yr hil ddynol, ac yn gwasgaru cymainto arian, a meddwdod." Ni ddiferodd ym- adroddion mwy gwirioneddol oddiar wefusau un athronydd erioed. Cymerwn drem ar y fasnach ei hun. Nid oes modd cael meddyliau digon eang, crebwyll digon cryf,