Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

G E D E 0 N ;■ NEU, DDIWYGrlWR WESLEYAIDD. U BETH SYDD OAN DDYN GONEST l'w OFNI ?" Cyf. III. MEDI, 1855. Rhif. 9. YR OLYNIÂD ÂPOSTOLAIDD. RlIAN I. ANEESUROL yw daioni Duw atom yn mhob modd, a deng- ys ei ofal mawr am danom yn rhoddiad ei air i'n cyfarwyddo yn yr iawn ffordd. Buasid yn meddwl y cymerasai pawb eu hathrawiaetb- au a'u trefniadau o'r llyfr hwn yn iinìg. Pan drown oddiwrth degwch golygddysgat ffeithiau hanesyddol, y mae y drem yn rhoddi i ni olygfa gwbl wahanol ! Y fath luaws o ddefodau dyeithr a arferir yn mhlith cristionogion, y rhai nad oes idd- ynt yr awdurdod lleiaf yn ngair Duw ! Pwy gristion all lai nag wylo wrth syllu ar ddynion dysg- edig yn ceisio amddiffyn pethau irior ynfyd a diystyr ? Gan fod y pwngc hwn yn un ag y mae iachawdwriaeth miloedd o eneidiau yn hongiau arno, gweddai i ni ei drafod o dan deimlad eidd- igus dros '* y ffydd a roddwyd un- waith i'r saint." Prif thcory Eglwys Ilhufain, yr hon a gofìeidir yn an- wyl gan y Puseyiaid, yw '• bod Crist wedi rhoddi cyílawn awdur- dod dros ei eglwys i'r deuddeg apostol, y rhai a neillduasant ol- ynwyr, i'r rhai y rhoddwyd awdur- dod yr apostolion ; ac mai yr olynwyr hyny ydynt yr esgobion cristionogol, y rhai a safant i ni yn lle yr apostolion ; ac mai hwy yn unig sydd yn meddu hawl i urddo dynion i waith y weinidogaeth ; a bod yr holl rai sydd yn y weini- dogaeth heb yr ordeiniad hwn yn ddysgyblion i Cora, Dathan, ac Abiram ! A chan mai Pedr (medd Eglwys Rhufain) oedd y prif apos- tol ac esgob Rhufain, felly mai y pab, fel ei olynydd ef, yw tywysog yr esgobion, a phen yr holl eglwys gristionogol; dyma yr "olyniad apostolaidd" hyny y dadleua y Puseyiaid drosto ! Y mae yn arferiad gan bob ym- chwilydd deallns, ac yn enwedig os bydd ef yn gyfreithiwr, i arholi yn fanol i'r hawl a hònir, gan symud y tystiolaethau, a gosod yr olygddysg mewn modd gwrthbrofadwy, trwy ddangos fod yn y dystiolaeth ang- hytundeb û hi ei hun, a bod ynddi hanfodolion cynnullddadl ffugiol; ac wedi symiaw y cwbl i fynu, dengys yn oleu nad oedd y tyst-