Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. Ehif 5. MEHEFIN, 1870. Cyf. I. êfm$ 6rrfgìrkl LLETTY JACOB YN LUZ. Yr oedd Jacob yn awr wedi tyfu i fyny yn ddyn, ac yn ffoi o wydd ei frawd, ac yn myned trwy gynghor ei dad i ymweled â pherthynasau ei fam i Mesopo- tamia, ac yn Luz y llettyodd gyntaf ar eiffordd; yno yr oedd ei letty yn un damweiniol ac etto yn un bwriadol. "Ac efe a ddaeth ar ddamwain i fangre ac a lettyodd yno." Mewn ystyr briodol nid oes un ddamwain yn bod ond yn ymddangosiadol yn unig. Y mae y pethau a alwn ni ynHdamweiniau yn cael eu gweithio wrth gynghor doeth, sefydlog, a thragwydd- ol Jehofa. Y mae llaw anweledig gan Eagluniaeth ddwyfol yn goruwch lywodraethu y cwbl er dwyn amcanion dainonus Duw i ben. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y ddaear." Y mae marwloaeth Ahab yn enghraifft o hyn." Tynodd un mewn bwa ar antur heb fod un amcan pennodol i ladd y brenin, ond cyfeirwyd ef trwy gyssylltiadau y llurug nes ei glwyfo i farwolaeth. Gellid meddwl hefyd wrth edrych ar yr hyn a ddaeth i Joseph mai damweiniau diamcan oeddent oll, ond cadwyn reol- aidd oeddent o gynghor doeth yn cael ei amlygu. " Duw a'm hebryngodd i o'ch blaen chwi i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi trwy fawr ymwared." Yr oedd yn lletty dibreswyl- wyr, ac etto nid oedd yn unig. Yr oedd ei gyd- ymaith goreu ei hun, a chydymaith ei dad, a'i daid yno, er nas gwyddai efe hyhy ar y cyntaf. «' Yr wyf fi gyda thi," medd Duw. Y mae Jacob yn hyn yn ddangosiad o'r gwir Gristion: nid yw efe yn unig pan y mae yn ymddangos wrtho ei hun, ac wedi ei adael gan bawb: "Pawb a'm gadawsant, eithr yr