Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. Ehif 7. AWST, 1870. Cyp. I. Y CAMEL. ÍEWY edrych a myfyrio ar Greadigaeth Duwy gwelwn ei fawredd, ei ddoethineb, a'i adaioni, ac felly hefyd y deuwn i'w ryfeddu yn fwy*a'i garu a'i barchu yn amgenach. Yn mhüth yr holl amrywiol greaduriaid a greodd Duw ar y ddaear, er bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar i ddyn, nid un o'r rhai lleiaf, ond yn hytrach, un o'r rhai penaf felly yw yr hwn a welir yn y Darlun hwn, sef y Camel. Wrth y ddwedyd ychydig am y creadur hwn, ni a roddwn yn I. Eglurhad ohono. Mae dau fath, neu o rywogaeth o'r Camel; ac y mae rhai yn dangos tri math ohonynt, trwy osod y Camel Brychiog (Camelopard neu y Giraffee) yn un o'r rhai hyn—hanes yr hwn a ddaw o dan ein sylw etto, fe- allai, yn fuan—Ond dau fath a ystyrir yn briodol yn Gamelod, sef yr hwn sydd á dau gnwc (bwihes) ar ei gefn, a'r llall yr hwn nad oes ond un twmpyn arei gefn. Yr un â'r ddau dwmpyn a elwir yn gyffredin wrth yr enw Camel, a'r hwn a'r un twmpyn a elwir Dromedary. Yr un olaf yw yr un «nwyaf buan neu heinyf ar ei droed, sefy Dromedary. Bywedir fod hwn yn fwy buan nâ'r un â'r ddau dwmpyn, o gymmaint ag ydj w