Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. rhif 9. HYDREF, 1870. Cyf. 1. [Yn ol penderfyniad, ac ar ddymuniad Pwyllgor yr Undeb isod, yr ydym yn gosod y Bheolau canlynol yn y Gwyliwb. Y mae yn sicr genym y gallant fod o werth i Ysgolion Sabbothol» ac Undebau Ysgolion ereill i sylwi arnynt, yn gystal â'r Undeb y perthynant iddo. Da genym gefnogi y fath Undeb, a'r fath Eeolau da wedi eu mabwysiadu ganddo, ag ydyw " Undeb Ys- gohon Sabbothol cylch Castellnedd."—Goln.] RHEOLAU UNDEB YSGOLION SABBOTHOL CYLCH CASTELLNEDD. 1. Fod yr Undeb hwn yn cael ei ffurfio rhwng yr Ysgolion canlynol, Bethania, Castellnedd; Rehoboth, Llansawel; Caersalem, Aberdulais; a Horeb, Sciwen, ac i gael ei alw, " Undeb Ysgolion Sabbothol cylch Castellnedd." 2. Amcan yr Undeb hwn yw meithrin cariad a chydweithrediad rhwng y gwahanol Ysgolion o blaid yr Ysgol—ei chodi i fwy o sylw yn yr ardal— ennill rhagor. o bleidwyr iddi, yn enwedig y crefyddwyr di- fraw a diwaith yn yr eglwysi, ac i ennyn mwy o sêl yn ei deiliaid o blaid ei llwyddiant, ac i greu rheol a threfn dda yn null cyfraniad addysg ynddi. 3. Fod yr Ysgolion i gydgyfarfod ddwywaith yn y üwyddyn mewn cymmanfa hanner blynyddol, ar gylch yn olynol, yn eglwysi yr Undeb, ar y Sul cynt- af yn mis Mawrth, a'r Sul diweddaf yn Awst, yn y drefn ganlynol:—Bethania, Castellnedd; Rehoboth, Llansawel; Aberdulais; a Horeb, Sciwen. Ac os dygwydd fod Cymmundeb yn un neu ragor o'r eg- lwysi ar y Sabbothau uchod, fod hyny i'w hysbysu yn y pwyllgor a gynnelir prydnawn dydd y Gym-