Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. Rhif 15. EBRILL, 1871. Cyf. 2. PERTHYNAS YR YSGOL A'R BYD. Papyr a ddarlìenwyd gan y Parch. N. Thomas, Caer- (h/dd, yn Nghyfarfod Caìfaria, Aberdar, Tachwedd 2, 1870. Heb dreulio dim amser mewn math o ragymadrodd, ymdrechwn graffu ar y pwnc gosodedig—Perthynas yr Ysgol Sabbothol à'r Byd. Oymmerir yn ganiataol fod perthynas rhwng y ddau â'u gilydd, sef yr ysgol a'r byd. Ein hamcan yn awr fydd ceisio ■dangos y modd y mae yr ysgol trwy hono yn dylan- wadu ar y byd. Rhaid i ni gofio mai yr ysgol sydd yn honi perthynas â'r byd; nid rhy barod yw y byd i arddel perthynas â'r ysgol. Cawn ddynion balch nad ydynt barod i arddel eu perthynasau os yn dlawd. Daeth yr ysgol Sabbothol i fodolaeth er mwyn y byd: ond gellir gyda phriodoldeb fabwysiadu yr un ym- adroddion am dani hi ag am Grist ei hun—"At yr eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyn- iasant hi." Ond, wedi y cwbl, y mae hi yn peri i'r byd deimlo ei bod hi ynddo, ac fod perthynas yn bodoli rhyngddi hi ag ef. 1. Mewn dysgur byd i sancteiddio y Sabboth.—" Cofìa J dydd Sabboth i'w sancteiddio," sydd ddyledswydd foesol orphwysedig ar bob dyn yn mhob man. A pha beth bynag a ddysgo y byd i barchu dydd yr Arglwydd, a fydd yn fendith annrhaethol i'r byd; a thyna oedd un o amcanion blaenaf sefydliad yr ysgol Sabbothol. Y mae yn ffaith alarus nid yn unig nad yw y dydd sanctaidd yn cael ei le priodol yn meddwl