Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWTLIWE. RHIF. 26. MAWRTH, 1872. Oyf. 3. ANERCHIAD YR AROLYGWR I BLANT YR YSaOL SABBOTHOL. «I a ddarllenais,* fy mhlant I, atn arwyddair (motto) gan un o ddysgedigion blaenaf America, gynt, yr hwn oedd yn debyg i byn,—Yr oedd ganddo ddarlun (picturé) o fynydd, a dyn wrth ei odre, wedi tynu ei het a'i got, a'u gosod yn ei ymyl, a chaib, neu bicas, yn ei ddwylaw; ac fel yr oedd efe yu ceibo yr hen fynydd mawr, yr oedd ei olwg amyneddgar ef, a'i eiriau, yn taro i'w gilydd yn hollol. Ei eiriau oedd, " Peu tt peu." Yn Saesneg, little by little; ac yn Gymraeg, ychydig wrth ychydig. Neu, yn fwy cyff- redin, bob yn ychydig ac ychydig. Chwi a welwch fod dau beth yn gryf annghyffredin yn y dyn hwo, cyn ei fod yn myned i geibo y mynydd ymaith ei hunan ; a'r ddau beth hyny oeddynt, penderfyniad ac amynedd. Yr oedd yn penderfynu gwneyd peth mawr; symud mynydd. Yr oedd yn gwybod y byddai iddo fod yn hir iawn cyn cwblhau ei waith, ond yr oedd ganddo amynedíLcyhyd a'r gwaith; "peu et peu" meddai efe o hỳd wrth geibo a rhofio yn mlaen. Chwi a allwch ddeall, fy mhlant I, fod y dyn hwn yn sicr o fyned yn enwog, ar ol symud mynydd ei hunan ; a phe buasai yn methu cyrhaedd ei amcan, etto yr oedd yn enwog am gynnyg at y fath orchwyl mawr. Yr oedd .y motto hwn yn gwbl wahanol i stori pendulum j clocJt (yr hon a allasech ei gweled yn y Gwtliwr ys rhyw amser yn ol). Yr oedd hwnw wedi myned i beidio -—---------------------------------—,------------------------------^ # Todd's Stiudents' gruide, p. 3,