Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AMAETHYDD. RHIF. 3_____________SADWRN, MAWRTH 1, 1845._______________ • DOSRANIAD FFERYLLAIDD YMARFEROL PRIDDOEDD. Y cam cyntaf i'w gymeryd mewn dosraniad fferyllaidd garw pridd, gyda golwg ar ei ddosbarthu sy fel y canlyn. Wedi pwyso yn ofalus ran o bridd a'i daenu yn deneu ar leu o bapyr gwyn glân, doder y rhan yma mewn pobty, neu ar ddarn o haiarn ar dân,—padell ffrio neu radell,—a gadawer yno i sychu nes y byddo y papyr yn dechreu dangos arwyddion o amliw; pwyswch wedi hyny a chyfaiebola yr hyn a gollwyd i'r líeithder, neu y dwfr oedd yn y pridd. Y peth cyntaf wedi hyny, fydd pwyso 100 gruin o'r pridd hwnw y buwyd yn gweithredu arno, a doder y 100 grain hyn mewn llestr bychan wedi ei wneud ofire-clay a daliwch ef uwch ben tâu cyffredin neu spirit lamp nes y delo i wres dwl coch; wedi hyny, pwyswch, a gellir golygu y golled, y swm neu y cyfartaledd o humus neu ddefnydd cyfansawdd oedd ynddo (dyweder 11|). Yn ail. Gan gadw o hyd yr un «swm o bridd, cymysger ef â haner pint o ddwfr, ac ychwanegwch at y cymysgedd hwn haner llonaid gwydr gwin o spirit ofsalt, (muriatic acid), ac ysgydwch o yu fynych. Os bydd ynddo galch cymer ymgynhyrfiad le, neu mewn geiriau ereill, cyfyd dyfrglych meinion o gas i'r gwyneb a diangant. Dyma y carbonic acid gas a gynhwysir yn y carbonate of' litne sydd yn y pridd. Pa bryd bynag y peidio y dyfrglych awyrol hyn a chodi i'r gwyneb wedi ei gynhyrfu, gellid ystyried y gweithrediad wedi darfod. Yna gadawer y cymysgedd i sefyll a thywallter y dwfr yn ofalus ; sycher y pridd megys y cyfarwyddwyd y tro cyntaf, ac wedi hyny, pwyser yn fanwl, a gellir ystyried yr hyn a gollwyd y calch oedd ynddo (dyweder 4|). Yn drydydd. Gallwn yn bresenol gymeryd rhan newydd o bridd, gan ei sychu yn drwyadl, a phwyso 100 grain o hono felly, neu ei gymeryd heb y sychu parotöawl, ond Iwfio gogyfer a'r swm neu y cyfartaledd o ddwfr y sychiad a gaed allan eisoes yn bod ynddo cyn y prawf, a berwer ef gyda'r dwfr, a chymysger ef yn hollol â'r'dwfr. Gellid y pryd hwnw ei dywallt i lestr(un gwydrfyddai y goreu)a gadael iddo sefyll nes y llonyddo yr holl ranau mawr tywodog. Dylid edrych yri fanwl at hyn ; a thra y byddo y gronynau cleiog ysgafnaf yn aros yn y dwfr, a chyn iddynt ddechreu llonyddu, tywallter y gwlybwr ymaith, a chasgler y tywod yn y gwaelod a sycher ef megys y cyfarwyddwyd y tro cyntaf a'r ail, a phwyser ef. Rhydd hyn y swm neu y cyfertaledd o dywod yn y pridd Uaith, yr hwn drwy y peth cyntaf a ddangosai ei fod yn cynwys swm penodol o ddwfr; a thyner allan, gan hyny, os bydd y swm o bridd wedi cael ei ddefuyddio yn llaith, y swm penodol o ddwfr y sychiad yn cyfateb î'r swm a chwiliwyd yn bresenol, megys y cyforwydd- wyd yn y sylw cyntaf o'r dosraniad hwn, bydded swm neu gyfartaledd y tywod a erys yn gyfertal i 10 (dyweífèr 10). Ynay mae genym Humus...................... 11J .. Calch....................... 4* ' Tywod...................... 10 Y gweddill yw Clai.. <..................... 74 Yn gwneuthur yn nghyd. .......... 100 CRADDAU TIR CRYF GWENITH. 1. Clai.—Gellir gwybpd a fydd clai mewn tir drwy ei esmwythder i'r teimlad, gwydnedd, ystwythder, a'r tuedd glynu sydd ynddo; peth arall cyffredinol berthynol i bob pridd allogaidd (alluminous) neu gleiog yw rhoddi allau arogl daiarol neillduol pan anadlir arno, yr hyn a dybir sydd yn cödi addiar gydgyfensoddiad y sylwedd cleiog, (alumina) gyda chyfran o oside ofiron, yr hwn sydd i'w gael bjx>n yn mhob priddoèdd, i*r feth raddau ag a wna o'r hyn Heiaf ddylanwadu neu gymhedrolkmewn rhyw fesur eu lliw, ond anaml y gwna hyny i'r feth raddau ag a bar niwaid; er y tybir gan wÿr gwybodus fod swro bach o hono yn ffefrol, os nid yn aogenrheidiol i dyfiant Hysiau. Tybir fod clai, o'r hyn llejaf y rhanau aluminous o hono yn gweithredu fel sugnwyr sylweddau gascous, megys ammonia er engraff, a'i fod yn meddu ymlyniad cryf wrth ddefhydd