Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

• / *• YR AMAETHYDD. Cyf. II. SADWRN, CHWEFROR 7, 1846. Rmr. 2. ------------------------------------------------------s-------------------------------------------------------------------------'----------------------------------- -........ ---------------- -----------------------------------—----------------------------------------------------------- LLYTHYR VII. AR BORTHI, CADW I FEWN, A THRINIAETH CEFFYLAU FFARM, A DA BYW. Gofynwch i'r ffarmwr a fyddai yn well ganddo wely glan, sych, iddo ei hun, na phentwr gwlyb braenedig? Gofynwch iddo áî m'd ydyw glanweithdra, gydag awyr briodol, yn dda iawn ar les iechyd ? Gofynwch iddo ai ni fyddai ei fwyd yn well wedi ei drin yn dda, a'i barotoi, ua phe buasai yn cael ei adael yn anmrwd ac yn fudr ? Gofynwch iddo a fydd ef yn hoffi trigfa oer yn yr haf, a thrigfa cynes yn y gauaf ? A dywed, yn ddiameii, y bydd, a chwardda am eich pen .yn y fargen, ac eto nid ystyr fod yr hyn sydd yn dda iddo ef ei hun yn llawn cystal felly i'w anifeiliaid. Beth a ddywedai ffarmwyr, pe gorfyddai iddynt ar ol diwrnod caled o waith gerdded deng milldir o ffordd am eu swper, a'r un faint boreu dranoeth i frecwast—gan golli chwe awr o orphwys, ac ychwanegu 40 yn y cant at eu llafur; ac eto dyna y modd y maent yn yniddwyn at eu ceflylau bob dydd. Y mae-y dull yu ymddangos yn rhy ffol i'w oddef. Yr wyf fi yn wrthwynebus hollòl i droi ceffylau allaẃ, neu iddynt gaal porfa mewn modd yn y byd ; y mae y dyfethiant ymboríh a gwrtaith mewn rhai o'n hardaloedd canoldirol a deheuol yn ddirfawr oherwydd hyn. Os troir ceffyl allan am ugain niwrnod ar erw, bydd hyny yn gyfartal i ugain ceftyLam ddiwrnod, neu ddeugain ceffyl am haner diwrnod, Dyehymygwch faiut a ddystrywiant—y niae eu pwysau yn mathru ac yn dyfetha swm dirfawr o ymborth. Gellid dywedyd, " O, y fath laswellta gyfyd erbyn bore dranoeth." Y mae yn wir, ond a ydyw efe, gyda'r raathriad beunyddiol hwn yn tyfu mor gyflym ac roor nerthol ac y gwnai pe cai lonydd i fod heb ei gyfhwrdd ac yn syth, gwna llwybr troed neu redfa cwningod mewn cae eich argyhoeddi. Ac yn y manau lle y c^l y dom collir yr ymborth, tybier fod y dora a'r lleisw yn gorchuddio ac yn halogi pedair llath yscwar bob dydd, gwna hyny 130 yn y mis, neu dri yn y caut yn y mis. Ý mae mewn gwirionedd yn golled o 36 o bunau o bob cant bob blwyddyn. Yr unig esgus dros borfàau yw sefyllfa anmherffaith buarth y ffarm, yr hyn a bar i'r rhan oreu o'r gwrtaith gael ei golli. Hefyd, gyda go'.wg ar y gwrtaith, dacw fo yn gorwedd yn ágored i wres yr haul, ac i'r gwynt cànu, nes y daw yn agos i'w liw gwreiddiol fel gwellt, gan golli ei ammonia a'i gases ereill ; a pheth sydd o fwy o bwys na'r cyfan, caiff ei amddifadu o'r fantais o ymweithiad yr hyn a gawsai mewn tanc priodol. Tybier fod lleisw ceffyl a'i dom galed yn gant pwys y dydd, neu ddeunaw tunell yn y flwyddyn, yr ydym yn colli un ran o dair o'r swm. Mewn gwjrionedd, nid ydyw yn ormod dywedyd, y gallwn drwy borthi wrth y mansier arbed yn swm y llafur yr â ceffyl drwyddo, ei gadwraeth a'i dail, ddeg ar ugain ueu ddeugain puht bob blwyddyn. Y mae hyn yn ddirfawr!! f •' • Gwych y gall ein llaw-weithwyr, y rhai a ystyriant y gwahauiaeth o un yn y cant,yn enill da, waeddi yn erbyn y diffyg cyfrifiad a threfniad sydd yn mhlith ein ffarmwÿr. Yr wyf yn addef, gyda chywilydd, er cyraaint cyfaill ì'r amaethwyr yr ystyriaf fy hun, eu bod yn haeddu y cerydd a roddir arnynt am hyn. Yr wyf yn galw arnynt ar unwaitli i wella drwy ddefnyddio fy nghynllun i, ac am iddynt arbed eu harian a'u parch. Y mae y meddyìddrych o fod gan ddyn cfdeugain ceftỳl, yn costio iddo l,500p. yn y flwyddyn, ac a wrthodo arbed 4 neu 500p. yn y flwyddyn am eu cadw, eu gwrtaith, a'u llafur yn wrthun; talu yn afresymol ydyw am feithrin rhagfarn neu gyndynrwydd, ac eto" yr wyf yn ofni fod rtwj a wnant hyny yn hytrách na gwoitîuüdu vn oî '.a nghyfarwyddiadau. Y mae anghyfleusderau a pheryglon yn gysylltedig â phorfäau anifeiliaid— cicio eu gilydd yn fynych, a damweiniau, colli amser ẅrtb geisio eu dal, torj gjiniau w^*- adrèf," a niwaid i'r cyfansoddiad drwy gyfnewidiad sydýn yn yr awyr% Heblaw hj ceffylau,aWthir yn hollol ar ymborth gwyrdd fyned drwy gymaint o lafur a'r rhai a \> ar fwy4«ymysg. Nid oes digon o ddefnydd cyhyr ac asgwrn mewn ymborth gwyrddi t hy laíth. Yr wyf fi yn gwrthwynebu yn gwbl i borfa barhaus, fel colled bersonol a oaij