Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

7 / / ' v f if 7 YE ESBONIWB; NEU GYLCHGRAWN YK YSGOL SABBOTHOL. Rhif 2. CHWEFROR, 1854. Cyf. I. ANERCHIAD AT EIN DARLLENWYR. Efallai na fyddai yn ammhriodol, ar gychwyniad y Cylchgrawn hwn, hysbysu ein darllenwyr o'r paham yr anturiasom ei gyhoeddi, a'n gohebwyr o'r pa fodd y bwriedir ei ddwyn mlaen. Fel y dylai pob un a gymero arno y swydd o fod yn ddysgawdwr cyhoedd- us allu rhoddi rhyw reswm, a phroífesu ei fod yn cael ei gynhyrfu gan ryw gymhellion cryfach a theilyngach na blys ac ysfa plentynaidd ; yr un modd, yr ydym ninau yn argyhoeddedig y dylem, ac y dylai pawb a ymgymerant â gorchwyl cyifelyb, allu dadgan fod genym amcanion mewn golwg trwy ein cyhoeddiad ag sydd yn ei wneyd yn haeddu pob cefnogaeth, a'n bod yn cael ein cynhyrfu gan gymhellion o'r fath fwyaf teilwng. Gwel ein darllenydd fod y misolwn hwn, er mor fychan, ieuanc, a diymhongar, i'w adnabod wrth yr enw anrhydeddus Esboniwr—enw a dybir, efallai gan rai, sydd yn bradychu gormod o'r ' Myfi '—o'r ysbryd