Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YMDDIDDAN. 347 fod yma ddrwg yn bodoli, nad oes ei gy- rlèlyb drwy yr holl fyd; a pheth go hynod na fuasai y gwyr ymofyngar a geir yn ein gwlad wedi cael allan y corgi ysglyfaethus hwn, a'i drin ef â'u tafodau rhydd ac ys- twyth yn y Cyhoeddiadau Misol cyn hyn, fel yr haeddai, gan eu bod wedi myned â gwaith hen wrageddos y glap ym mron yn llwyr oddi arnynt yr oes hon, fel nad oes esgus mwy i'r hen glecceiod fyned o dŷ i dŷ. Dyma y cilrith-beiriant (smuggling mill) m«yaf niweidiol i gymdeitlias a allodd gallu'r tywyllwch lunioerioed; dyma loches y bwjstfil, os ydycb am gael gwybodaeth ym mha le y llecha, ac y mae mor gyfrwys a'r llwynog yn gweithio, fel nad oes neb braidd o'r ymofynwyr mwyaf llygadgraff yn ei ganfod.mwy na phe byddent yn eu trymgwsg.er ei fod yn gweithredu yn gy- hoedd,' yng ngwynebhaul a llygad goleuni,' ac ni syflodd tafud un o'r cwn, ar wn i, er ei aflonyddu hyd yn hyn. Mae cywreinrwydd ! digyrlelyb yn perthyn iddo. Melinau yn j gyffredin a roddant yr un pwysau o flawd i lawr i'r cafn, ag a roddir o yd i fynu i'r hopran (liwb-bren ;) ond y peiriant hwn a ddyry gymmaint yn fwy i lawr i'r cafn, ag yw deg yn fwy na dau. Cyssylltir dau mewn priodas, yna bydd eisiau lle i fyw ; ac os bydd y gwr yn weilhiwr da, rhyw amaeth- wr mawr, ag oedd yn adnabod y dyn ei fod yn weithiwr grymus, a red ar frys, ac a ddywed, • Cei di dŷ gen' i, Sioni, bid y fyn- no, a Ue i gadw buwch os mynni, a gwaith bob dydd y byddo arnaf fì eisiau gweilhiwr,' (ond ni sonia ddim pa gymmaint y ca fod yn segur o'i ran ef, ynenwedig fyrddydd gauaf.) Sioni a olynna yn awyddus, heb oedi, me- ddwl, na mylyrio pa fodd y byddai bjw, yr un rnodd ag y rhuthrodd yn fyrbwyll i bri- odi y f'enyw cyn hynny,' Pa dỳ sydd gen- nych V * O,' ebai yr amaethwr cyfrwys, 'ni chei di ddim hen fwthyn gen' i, paid â meddwl, ond codaf dý newydd i ti;' wedi rhagfwriadu rhyw gongl Iwyaf diffrwyth o dir, yn nghornel pellaf Cae Bangc üchaf, yn ymyl y clawdd ffin, nad oedd o fawr neu o ddim lles iddo ef ei hun.' ' B'le y codwch chwi ef, Meistr (yn awr,') ebai Sioni ? ' Gwyddost yn dda nad yw llawer o'm tir i ond gwlyb iawn,ac yn enwedig dan y öòrdd; byddai yn ddigon o surffed i ti fyw, heb fÿned i fwy na mwy o dranl i gwtteru o dan y lý, &c. Gwell i ti gael dy aelwyd yn sych, a dim natur damprwydd yn y gwely erbyn yr elo Malen fach i orwedd i mewn y gauaf yma. Rhof fi sylfaen y tý ar y graig i ti, Sioni ; codaf y tŷ i ti yng nghornel Cae Bangc, a chei'r bigws fain i gyd yn borfa i'r fuwch; ac os bydd hynny yn rhy fach iddi, ca bori Lôn y Cefn, mor belled i Iawr a Chaeau Llethr Uchaf, a cha bori oddi yno ym mlaen, mi wn, hyd Dŷ y Rhesfa, canys nid yw Gruffydd yn ddyn cas. Cei di y tý a'r tir am bris rhesymol, ond cofia di fod ya rhaid i mi gael rhent mwy yn ol yr herwydd nag wyf fi yn dalu;' ac wedi ychwanegu llawer o dwyll-resymmau, huda y dyn yn hollol i addaw dau neu dri gwerth o Ieiaf am y tý a'r enw tir, ac i rwymo ei hun yn ddigon caeth. Bydd yn y cyttundeb wythnos o waith y cynhauaf beth bynnag, heblaw pedwar diwrnod am le i hau pob mesur 0 gloron,a dau ddiwrnod am bob llwyth o fawn; ac erbyn y talo y dyn druan y cwbl, dyna ei haf wedi darfod, a'i gynhauaf wedi myned heibio, heb gael ennill dim yn yr adeg oreu o'r fiwyddyn. Ac wele Sioni, yra mhen ychydig iawn o flynyddoedd, wedi myned yn llibyn, a'r teulu ynamlhau; ac nid oes modd byw, heb redeg dan wylo at yr Overseers i ymofyn am help; a gallasai ddywedyd wrlh fyned, gyda llawer o wir, ' Gwae fì, gwae fi! gwnaeth yn anffyddlon o'r fath anffyddlonaf â mi; tynnodd íì i rwyd nas gall neb fy nghael o honi; wele fi a'm leulu ar drengu; pa beth a wnaf?' Nid Pendefìgaeth a wnaeth hyn; dyma y dreth yn myned yn fwy, a'r ysgrechain mawr o'i herwydd, ac estyn bysedd attynt hwy, y meistri tir! Ni anghofiaf yr hyn a adrodd- odd amaelhwr cyfrifol wrthyf fì er ys amser yn ol. Cof oedd ganddo yr amser nad oedd Treth Tlodi ar y plwyf lle yganedef; ar 01 hynny iddo ei gweled yn llawer mwy nag y mae yn awr; a'r achos o'r mawr gyfnew- idiad fu fel y canlyn:—yr amaethwyr oedd- ynt yn hurio dynion gweithgar,ac yn rhentu iddynt fel uchod, ac ar yr un pryd yn addaw pleidi§ ar eu rhan yn y Vestry am dâl wyth- nosol da o'r dreth ; a pha mor rhyfedd y gwelid eu hwynebau hirion, gyda hirleisiau yno yn cwynfan yn chwerw ar ran y dyn truan, pan mewn gwirionedd yroeddynt hwy eu hunain wedi ei ladd a'i iingo cyn hyn. Er bod y gaethfasnach hon i raddau wedi ei diddymmu gan y drefn newydd, etto y mae ei heflèithiau gwenwynawl yn parhau i raddau helaeth ; a pharhant hefyò, y mae lle i ofni. Ond nid yw wbwb yr amaethwyr yn lleihau; cwynant lawer o eisiau na boas- ent hwy yn cael rhoddi rhyw esgus neu rith