Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

350 AT FECCAIAID SWYDD GAERFYRDDIN. lieving ^Officer ac eraill, y rhai sydd yn ffrotho ac yn bwrw eu poer am draws per- sonau, a Methodistiaeth yn y pen draw yn gorfod diuddef oblegid dwli, balchder, ac ymddygiadau truhaus y rhai a'i proffesant. Rhoddwch daw ar eich clebrwyr.ac ysgub- wcheich tai; ac yn anad dim, cotìwch am eich blaenoriaid, tìydd y rhai dilýhwch, gan ystyried diweddeu hyroarweddiad hwynt. AT FECCAIAID SWYDD GAERFYR- DDIN. Anwyl Gvdwladwyk3—I ba fath gyf- lwr o brudd-der y mae gweithredoedd y personau drygionus a thwylledig hynny a elwir Beccaiaid wedi dwyn y sir hon a'r siroedd cymmydogaethol—yn neillduol felly ysirhon! Sir ag ydoedd hyd yn hyn yn nodedig am ei hufudd-dod i'r Llywodraeth, ac am ei hymddygiad heddychol, yn neill- duol ar amserau o anghenoctid, ar amserau caledion, ac ar amserau o brinder, pan nad ydoedd digon o fara beunyddiol y» digwydd ond i ran ychydig nifer! Ac y mae yn dei- Iwnç o sylw, bod y sir hon yn heddychol a diderfysg, ar amserau ag yr ydoedd ysj.ryd aflywodraethus a therfysgoedd yn ymledu ac yn gwasgaru eu heffeithiau gwenwynig mewn amryw barthau o'r wlad—ar amserau o'r fath, yr oedd sir Gaerfyrddin yn nodedig am ei hufudd-dod tawel i'r cjfreilhiau ! A phaham? Ië, pa ham, fy anwyl gydwlad- wyr, yr ymwrthodwch chwi â'ch cymmer- iad da ? Mi a ofynnaf i'r rhai a gychwynas- ant yr amryfusedd presennol, a ddarfu idd- ynt fwrw y draul gyda golwg ar helaeth- rwydd y drwg a'r trueni a ddygent arnynt eu hunain, yn gystal ag ar eraill hefyd ? Ac a ydyw arweinyddion y terfysgoedd nosawl presennol wedi ystyried canlyniadau braw- ychus eu gweithredoedd dinystriol? A fyddant hwy yn alluog i sefyll ar ddydd y prawf ? oblegid dydd o brawf a fydd yn sicr o'u goddiweddyd, a hynny ef allai yn fuan- ach nag y maent hwy wedi tybied. Pa beth biyd hyn a fydd teimladau y Beccaiad yn- fyd, yr hwn a adawodd ei gymmeriad gwr- rywaidd, gan ymddieithrio yng nghymmer- iad anwraidd menyw ! Yn gywilyddus gan- ddo ddangos ei wyneb, ymddieithriai yn niwyg lleidr neu ddihenyddwr! A'i gym- deithion mewn troseddau, y rhai a dwyll- wyd drwy addewidion celwyddog, neu drwy fygythion brawychus, neu drwy ryw foddion a orfodwyd i fod yn rhannog âg ef yn ei gynniweirfa euog, a'i cyhuddant mewn chwerwder o'i fradwriaeth tuag attynt, ac a ddyganti'rgoleuniholl gynlluniau dirgelaidd ei ddrygioni! Ac fel hyn gadewirefyn ys- glyfaeth i'w ofid, ac yn aberth cyfiawn i gyfreithiau ei wlad, y rhai a droseddwyd ganddo, i ddioddef marwolaeth fel drwg- weithredwr, neu i roddi iawn am ei dros- edddu drwy gael ei anfon o'r wlad, i dreuüo gweddill ei oes mewn caethiwed caled yn nherfynau eithafy ddaear! Hyd yma yr ydych, lawer o honoch, wedi dihengyd heb gael eich dal; ond y mae eich gobeithion am ddihengyd lawer ym mhell- ach yn ddi-sail! Ac er y dichyn eich bod wedi ymgaledu i'r fath raddau mewn dryg- ioni, ftl ag i ddycbymmygu eich bod yn hollol ddiogel. bydd i gyfiawnder eich dal; ac oblegid helaethrwydd eich drygioni, a mawredd eich troseddau, niellwch ddisgwyl am drugaredd ! O ganlyniad arafwch, ad- fyfyriwch ar y dinystr a ddygwch, nid yn unig arnoch eich hunain, ar eich teuluoedd, ac ar eich cymmydogion, ond ar yr holl wlad! Trwy eich ymddygiadau dinystriol, y diniwed a'r gwirion, y tlawd a'rdiymsel- edd, y cyfaill-a'r dyn haelionus, y boneddig a'r gwreng, y meistr a'r gweithiwr—rhaid i bawb ddioddef, mwy neu lai, dan efleithiau truenus eichcynniweirfeydd, a phawbagyd- gleddir yn yr un dinystr! Ghwi a ddywedwch fod yr amseroedd yn galedion; ond pa ham yr ydych yn eu gwneuthur yn waeth, trwy ddinystrio medd- iannau, y rhai y gwyddoch o'r goreu bod y gyfraith yn peri iddynt gael eu hadferu ar draul yr Hwndrwd o fewn cyîch yr hon y cytìawnir y dinystriadau ; ac fel hyn,chwi a ychwanegwch at feichiau trymion talwyr trethi! Ac heb ymfoddloni ar ddinystrio tollbyrlh athai.llosgi ydlannau ac ydau. Y mae rhai o honoch yn eich gwallgofrwydd wedi bod yn euog o gyfiawnu Uofruddiaeth, gan drochi eich dwylaw mewn gwaed gwir- ion! Hyd y mae ynoch, yr ydycli am ddwyn newyn a melldith i'r wlad! Gwrandewch yr hyn a ddywed y Goruchaf Lywydd,— 'Myfi bia dial; myfl a dalaf, medd yr Ar- glwydd.' Onid yw hwn yn gyhoeddiad brawychus yn erbyn gweilhredwyr anwir- edd? ond chwychwi, drwy eich gweithred- oedd ysgeler, a roddwch herr i fygythion arswydus yr uchel Dduw! Yr wyf drachefn a thrachefn yn erfyn arnoch, i adfyfyrio ar ganlyniadau eich gwallgofrwydd, ac i adael eich flyrdd drygionus a dinystriol, ac i roddi eich honaÌD yn gyfangwbl at ddyledswyddau