Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

352 HANESION, &c. sennau pîgog, a fyddant yn sicr o fyned trwy gledrau eich dwylaw ! Ai gwilliaid arfog y tywyllwch ydynt y rhai y seiliwch eich go- beithion arnynt? Ai oddiwrth ffaglwyr tai ac ydlannau, y deillia daioni i chwi ? Ai oddiwrth ddinystrwyr pob math o feddian- nau y disgwyliwch chwi am lwyddiant a dedwyddwch? A gymmerwch chwi dros- eddwyr y gyfraith i fod yn ymgeleddwyr i chwi? Ai lleiddiaid a llofruddion ydynt y rhai a gymmerwch chwi fel.'eich cyfeillion pennaf? Ffermwyr, onid ydych yn gweled ein bon- eddigion, rhai wedi gadael y wlad,eraill ar eu hedyn,aceraill ynymbarottoi i'wgadael? A ydyw hyn ddim yn pwyso yn'drwm yn erbyn eich interest chwi? A eflëithia hyn ddim ar brisoedd eich nwyddau? Ac onid chwi yn y pen draw a deimlwch fwyaf oddi- wrlh hyn? Pwy a rydd arian allau, yn wyneb cyflwr presennol y wlad ? Y mae drysau yr Ariandai ar gael eu cau! Y mae yrechwynwyr yn galw eu dyledion i fynu ! Y mae pob math o ymddiried ar drangced- igaelh! Y mae y wlad wedi ei gwthio i ddibyn dinystr! Yr ydych yn gwe!ed y gyf- raith yn cael ei herrio, ac y mae colofnau gorchwylion dinystr yn yr amlwg ar ben pob heol! Y mae y llifddorau wedi cael eu cyfodi; a pha ddiogelwch sydd gennych chwi, na fydd i chwithau gael eich dinystrio gan y llifeiriant ? A ellwch chwi arglwydd- iaethu ar yr yspryd dinystr, a genhedlwyd yn y wlad gan ddynion drygiorros a dieg- wyddor? A ydych chwi yn sicr na bydd iddo eich niweidio chwi yn eich personau ? A wna efe ddim torri i mewn i'ch tai chwi ? Aryddefeddim o'ch ysguboriau a'ch yd- lannau chwi ar dân? Pwy erioed a ym- ddiriedodd i'r yspryd melldigedig hyn, ag na fradychwyd ganddo yn y pen draw ? Pe ymresymmech yn gywir, chwi a welech ar unwaith eich bod wedi ymddiried eich inter- est i gymmeriadau ag sydd a'u hinterest eu hunain yn unig mewn golwg ganddynt, ac a wnant eich aberthu chwi a'ch interest y mu- nud y safoch yn ffordd eu cynniweirfa hwy! Ai nid pydewau torredig a gloddir gennych ? A ydych chwi ddim fel Israel gynt, yn rhoddi eich pwys ar yr Aipht, ac mor sicr a hwy- thau o gael y siomedigaeth fwyaf yn y pen draw? Ai nid ar ol dychymmygion a chys- godau yr ymlidiwch ? A jdych chwi ddim yn cael eich twyllo gan budlewyrnod? A ydyw ymddiddanion drwg ddim wedi llygru eich moesau da chwi ? Ffermwyr, y mae cyffelybiaeth yn yr Ys- grythyr Lân,ac sydd yn deilwng iawn o'ch sylw. Aeth Israel ar ddidro, fel gwraig an- ffyddlon oddiwrth ei phriod, a dywedodd, eAf ar ol fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoddi fy mara a'm dwfr, fy ngwlan a'm llin, fy olew a'm diodydd.' Siomwyd Israel yn ei ddychymmygion; caowyd ei ffordd â drain, a mur a fwriwyd oddi amgylch, fel na chaffai efe ei lwybrau. Dilynodd Israel ei gariadau, ond nis goddiweddodd hwynt; ceisiodd hwynt, ond nis cafodd ; ac yn wy- neb bod siomedigaethau yn dilyn siomedig- aethau, dywedodd o'r diwedd,' Af a dych- welaf at fy ngwr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fl yna nag yr awr hon.' Yr wyf yn ei adael at eich synwyrau goreu chwi, yn wyneb bod hir nosweithiau tywyllion y gauaf yn neshau, A ydyw yn gydweddol â diogelwch y wlad i adael yspryd y dioystr i rodio mewn llawn ryddid, ac i gynllwyn yn ei byn y neb y mynno ? A ellwch chwi gysgu yn esmwyth yn eich gwelyau, a'r drwg yn rhodio yn arfog a buddugoliaethus yn eich cymmydogaethau ? Ac ai difatter gennych chwi bod y ganwyll yn llaw y ffagl- wr heb ei diffoddi, ac na wyddoch pa funud y bydd coelcerthi yn fflamio hyd entrych yr awyr yn ymyl eich tai? Y mae rhai o honoch wedi cynnorthwyo i ddirymmu braich y gyfraith yn barod, a pha gryfdwr a fydd ynddi i'ch cynnorthwyo chwi yn nydd eich anghenoctid ? Heb oedi munud, eich interest a'ch dyledswydd ydyw gwrthsefyll y drwg hwn, diarfogi yspryd y dinystr hwn, sefyll ym mhlaid y gyfraith, a bod yn gryf- dwr ym mynydd yr TJstusiaid ac eraill,ag ydynt yn ei wrthsefyll hyd y mae yn ddi- chonadwy iddynt, ond yn aneffeithiol oble- gid eich anewyllysgarwch chwi i estyn o'ch cynnorthwyon iddynt! Cyn i'r drwg fyned yn fwy brawychus,a chyn iddi fyned yn rhy ddiweddar, A wnewch chwi gydgynnorthwyo a chydweithredu i adferu llonyddwch, tang- nefedd, ymddiried, ac ewyllys da i'r wlad, gan gofio mai undeb ydyw cadernid teyrnas, cymdeithas, cymmydogaeth a theulu ? Ac heb ollwng dros gof, nad dichonadwy i deyrnas, na theulu, na chymmydogaeth ym- rannedig sefyll; ac y gall ein gelynion, y rhai ydyot bob amser yn gwylied eu cyf- leusdra, ddyfod i mewn drwy adwy y rhwyg a wneir yn awr yn ein gwlad, a'n cyd-gladdu yn dragywydd yng nghorbwll dinystr! HydrefG, 1843. Ewyliysiwr Da.