Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IIANESION, &c. 353 IMPYN GOBFITHIOL. Darfü i eglwysi y C- -n, aCh-----u ddewis iddynt eu hunain ryw impyn go- bethiol anghyffredin o fugail eleni. Y mae yr ysgogyn hunatfnol hwn gwedi treulio rhyw gymmaint o amser mewn Athrofa ; ond ymchwyddodd diwy effeithiau y llyffant a orsedda yn ei fol i'r fath raddau, fel yr aeth yn ormod o ddyn i'r Athraw ddeall ei amgylchedd; eithr wedi byw ychydig yn y sefyllfa hyfrydol o guwch cwd a ffettan, cafodd alwad gan y rhai a wnant i fynu y cynnulìeidfayedd rhagddywededig. Ni wn i ddim am ei gapacity fel pregethwr; ond gwn hyn, os gwna cyfeillach eppil Efa gym- mhwyso neb al y gwaith oefangylu.ei fod ef yn un o oreuon ein gwlad. Cafodd ei ddrilo yn dda gan ddwy o'r un rhyw a Helen, yn Ffair Fach yr Haf Llanybydder, y dydd blaenorol i'w urddiad. Yr oedd yn llyngcu eu darlithiau gyda melusder aw- yddus, meddir; a thrwy hynny, dios i'w feddwl gael ei barottoi yn briodol erbyn drannoeth. Ymffrostia y llangc yn bennaf yn ei athrylith fel bardd ; ond meddyliwyf nad oes neb ond ef ei hun, a'r genethod difyr oddiwrth ba rai y mae yn casglu ei feddylddrychau, debygir, yn ddigon treidd- gar i gael allan fawr sylwedd o'i waith. Mae yn deilwng o sylw hefyd, ei fod wedi dwyn llawer o gynghaneddion newyddion i arferiad, na freuddwydiodd neb am danynt, chwaithach eu defnyddio o'r blaen yn y pedwar mesur ar hngain. Byddai yn dra hoff genn)f dro arall roddi specimen o hon- ynt i'r beirdd, pe cawn ganiattad, trwy gyf- rwng yr Hatjl; ond bydrled i'r darllenydd- ion fod yn foddlon y tro hwn ar fy addewid i wneuthur hynny. Glann y Môr. Pysgottwr. GWLITH AR WERSYLL INDEPENDIA. A Ml yn ymdeithio ddydd' arall drwy ystradoedd y Felinfach, nid dros daith garwriaethol nos Sadwrn o Lanfihangel Ystrad, gwelwn ryw anghenfil mawr, a di- ferynnau yn crogi wrth ei grabi, yn darllen rhyw Fisolyn i haid o gryttiaid, a agorent eu cegau fel pe byddent mewn addewid o'r manna nefol. Wrth weled y gwrandawyr yn gwrandaw gydag astudrwydd a syndod, dynesais innau yn araf i'w plith ; a'r an- nerchiad cyntaf a ddeallais oedd,—• Dyma Gyhoeddiad gwirioneddol, a dim ond hwn sydd yn cyhoeddi y gwirionedd. Dyma 2 V frenhin yr Hatjl, gan ei fod wedi hala taw ar hwnnw, a da oedd ganddo lechu ym mag- ddu y Methodists—Independia for ever! Goleuni sydd yn einCyhoeddiadau ni; goleu yw y tywysydd, ac am hynny goleu hefyd a fydd y derbynwyr, ond eu hiawn ddeall, o waethaf Haül brycheulyd Llanymddyfri.' Dyna swma sylwedd rhagymadrodd y Lap- lander, Ni foddyliais fod hynyna ar lawr yn y pamphlet nedd yn ei law, ond tebygas- wn ei fod wedi ei weled yn rhywle, gan ffyrnigrwydd ei frygawthen. Pan wnelo ef ei ymddangosiad mewn cynnulìeidfa o bobl, gellwch adnabod ei fawrhydi wrth y nodau a ganlyn. Y peth cyntaf a welwch fydd ei drwyn, gwedi ei ddurio yn dda â digywil- ydd-dra; y peth nesaf fydd ymddangosiad ei ên; ac yn nesaf ei gorn pori, yn addurno ei wddf ciconiäaidd ; a rhyw wagle yn Ile ei goryn. Ei waith brydnawnau Suliau ydyw darllen y Diwygiwr ar ochr yr heol; ni cha neb bresonnoli ei hunan yn ei dý, o herwydd drwgdybia fod pob dyn yn barod i bilffran rhyw beth oddi amo. Pryna gel- wyddau o Lanelli ddydd Sul y cymmundeb. Geill roddi pedair a dimmai am dano,yn ol rhoddi rhy fach o dair modfedd o fesur mewn brethyn hugan, a'r trimmings yn gyf- attebol, i amaethwr o'r gymmydogaeth. Mae yn fab i Sant Nonni, a dylid ei seintio yntau Dymunwn yn fawr i ryw athraw dysgedig yn ei glywedigaeth ryw Sul, ar ol y darfyddo efe lecturo cryttiaid yn y Diwyg- iwr, sylwi ar yr adnodau canlynol, a ellwch weled yn Llyfr Prophwydoliaeth Micah:—> 1 A oes etto drysorau anwiredd o fewn lỳ y gwr anwir, a'r mesur prin, peth ffiaidd ? A gjfrifwn ynlâh un a chloriannau anwir, aca chod o gerrig twyllodrus í' DlSGYBL. AT Y PARCH. D. REES, LLANELLI. Barch. Syr,—Mynych y profir gwir- ionedd yr hen ddihareb honno, 'Pa hwyaf y byddo dyn byw, mwyaf i gyd a wel ac a glyw.' Yr wyf fìnnau wedi byw i glywed am siopwr, a breswylia yn Llanelli, yr hwn sydd yn wahanol i bob siopwr ar a glywais i son am dano yn fy mywyd. Clywais am ei berson, y gellir aduabod bod anfoddlonrwydd yr Hollalluog arno, oblegid nid yw trugareddau Duw yn gwneud ond y peth nesaf i ddim o'u hol arno. Hefyd gyda golwg ar ei fasnach, fod yr oll sydd ganddo yn waelach nag eiddo masnachwyr eraill, ond er hynny yn uwch eu pris. A'r hyn sydd yn gwneu- thur y peth yn fwy rhyfedd byth, ei fod