Cambrian Journal
Cylchgrawn chwarterol y Cambrian Institute a gafodd ei sefydlu wedi dadl rhwng golygyddion Archaeologia Cambrensis. Ymhlith cynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau ar ieitheg, topograffeg, botaneg, bywgraffiadau, cerddoriaeth, hanes llenyddiaeth, barddoniaeth ac adolygiadau. Golygwyd y gyfrol tan Fehefin 1862 gan y clerigwr a hynafiaethydd, John Williams (Ab Ithel, 1811-1862) ac wedyn gan y clerigwr, hynafiaethwr ac eisteddfodwr, Thomas James (Llallawg, 1817-1879). Teitlau cysylltiol: The Cambrian Quarterly Journal (Mehefin-Rhagfyr 1856).
Amlder: Quarterly
Iaith: Saesneg
Lleoliad: London
Manylion Cyhoeddwr: Longmans & Co., J. R. Smith [etc.]
Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1854
Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1864