...

Yr athraw : cylchgrawn misol

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu ysgolion Sul yr enwad Undodaidd. Ynghyd ag erthyglau ar faterion crefyddol 'roedd y cylchgrawn hefyd yn cyhoeddi erthyglau ar bynciau mwy cyffredinol yn cynnwys hanes a bywgraffiadau. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog Undodaidd, llenor, ysgolfeistr a diwygiwr cymdeithasol, William Thomas (Gwilym Marles, 1834-1879).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Aberystwyth
LLEOLIAD: D. Jenkins
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1865
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1867