Cylchgronau Cymru
Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau
Adolygydd (Caerdydd)
Cylchgrawn chwarterol, Cymraeg ei iaith, a oedd ynghyd a chynnig adolygiadau llenyddol yn trafod pynciau megis diwinyddiaeth, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac addysg. Ei golygydd cyntaf oedd y gweinidog a newyddiadurwr y Parchedig Evan Jones (Ieuan Gwynedd, 1820-1852). Ail-leolwyd y cylchgrawn i Lanelli o Gaerdydd er mwyn hwyluso gwaith Ieuan Gwynedd, lle'r oedd eisoes yn golygu'r Diwygiwr, Y Tywysydd a'r Gymraes. Wedi ei farwolaeth yn 1852 golygwyd y cylchgrawn gan y Parchedig William Williams (Caledfryn, 1801-1869). Teitlau cysylltiol: Y Beirniad (1859-1879).Amlder: Chwarterol
Iaith: Cymraeg
Lleoliad: Caerdydd [Cardiff]
Manylion Cyhoeddwr: William Owen
Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1850
Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1853