...

Undebwr Cymreig

Cylchgrawn gwleidyddol misol, Cymraeg ei iaith, Cymdeithas y Rhyddfrydwyr Undebol. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau gwleidyddol, yn enwedig yn gwrthwynebu hunanlywodraeth i Gymru ac Iwerddon, newyddion a bywgraffiadau. Golygwyd y cylchgrawn gan yr ysgolfeistr, newyddiadurwr ac awdur, Henry Tobit Evans (1844-1908), a oedd hefyd yn ysgrifennydd mygedol i'r gymdeithas yn Sir Ceredigion.

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Aberayron [Aberaeron]
LLEOLIAD: H. T. Evans
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1890
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1890