Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Seren Gomer

Cylchgrawn crefyddol, llenyddol a chyffredinol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cyhoeddi erthyglau crefyddol, athronyddol a gwleidyddol ynghyd a newyddion cartref a tramor, barddoniaeth, bywgraffiadau ac adolygiadau. Yn wreiddiol yn gylchgrawn anenwadol 'roedd yn gwasanaethu'r Bedyddwyr o 1859 ymlaen. Cafodd ei gyhoeddi'n bythefnosol, yn fisol, daufisol, trimisol ac yn chwarterol ar wahanol adegau. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn 'roedd Joseph Harris (Gomer, 1773-1825), William Roberts (Nefydd, 1813-1872), William Rhys Watkin (1875-1947) a Lewis Valentine (1893-1986). Teitlau cysylltiol: Cristion (1983).

Amlder: Pythefnosol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Abertawe [Swansea]

Manylion Cyhoeddwr: J. Harris

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1818

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1910