...

Dysgedydd crefyddol

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu enwad yr Annibynwyr. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol, bywgraffiadau, newyddion cartref a thramor, newyddion cenhadol a barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog Annibynnol, Cadwaladr Jones (1783-1867). Teitlau cysylltiol: Y Dysgedydd (1840).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Dolgellau
LLEOLIAD: [David Jones]
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1821
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1910