...

Y tyst dirwestol

Cylchgrawn dirwestol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd wedi ei darparu ar gyfer y Gobeithlu a'r cymdeithasau a chyfarfodydd dirwest. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau ar ddirwest, adroddiadau ar weithgareddau dirwestwyr cartref a tramor, bywgraffiadau a newyddion o Gymanfa Dirwestol Gogledd Cymru. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd R. Prys-Jones, J. Ellis Jones, a'r gweinidog a diwygiwr cymdeithasol ac addysgiadol, Evan Kenffig Jones (1863-1950).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Bala
LLEOLIAD: Davies ac Evans
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1898
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1910