Cyfaill Yr Aelwyd
Cylchgrawn anenwadol poblogaidd, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cyhoeddi nofelau cyfres ynghyd ac erthyglau ar hynafiaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a gwyddoniaeth. Golygwyd gan y newyddiadurwr a dramodydd, Beriah Gwynfe Evans (1848-1927), gyda'r cerddor William Thomas Rees (Alaw Ddu, 1838-1904) yn is-olygydd cerddoriaeth (1880-1886). Teitlau cysylltiol: Cerddor y Cymry (1886-1888); Cyvaill yr Aelwyd (1888); Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones (1892).
Amlder: Misol
Iaith: Cymraeg
Lleoliad: Llanelli
Manylion Cyhoeddwr: D. Williams a'i Fab
Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1880
Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1891