Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Trysorfa y plant

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu plant y Methodistiaid Calfinaidd ond oedd hefyd gyda chylchrediad mawr ymhlith plant yr enwadau eraill. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol, hanesyddol ac ar fyd natur, ynghyd a bywgraffiadau, barddoniaeth a cherddoriaeth. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd y gweinidog, Thomas Levi (1825-1916), y gweinidog a bardd, Robert David Rowland (Anthropos, c.1853-1944) a'r gweinidog a bardd, William Nantlais Williams (1874-1959). Teitlau cysylltiol: Antur (1966).

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Treffynnon [Holywell]

Manylion Cyhoeddwr: P. M. Evans

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1862

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1910