...

Ieuenctyd Cymru

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu pobl ifanc eglwysi'r Annibynwyr yn Sir Morgannwg. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol a llenyddol, ynghyd a barddoniaeth a cherddoriaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog David Silyn Evans (Silyn), gyda'r cerddor William John Evans (1866-1947) yn is-olygydd cerddoriaeth a Ben Davies yn is-olygydd barddoniaeth.

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Aberdâr [Aberdare]
LLEOLIAD: [Swyddfa'r Darian]
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1899
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1908