...

Cerddor Sol-ffa

Cylchgrawn cerddorol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd wedi ei darparu ar gyfer defnydd yn wersi tonic sol-ffa. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd cyfansoddiadau ac erthyglau ar gerddoriaeth a cherddorion, ynghyd a newyddion ar gyfer dosbarthiadau tonic sol-ffa. Golygwyd y cylchgrawn gan y cerddor a gweinidog Methodist Calfinaidd, Hugh Davies (Pencerdd Maelor, 1844-1907). Teitlau cysylltiol: Cerddor y Tonic Sol-ffa (1869).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Wrexham
LLEOLIAD: Hughes & Son
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1881
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1884