...

Y temlydd Cymreig

Cylchgrawn dirwestol misol, Cymraeg ei iaith, Urdd Annibynnol y Temlwyr Da. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau ar ddirwest, newyddion ac adroddiadau ar yr Urdd a'i gweithgareddau a barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog, dirwestwr ac eisteddfodwr, John Eiddon Jones (1841-1903) tan Medi 1877, gan Henry Jones Williams ac Owen N. Jones tan Ebrill 1878, ac yna gan William Gwyddno Roberts. Teitlau cysylltiol: Y Dyngarwr (1879).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Caernarfon
LLEOLIAD: John Davies
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1873
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1878