Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Archaeologia Cambrensis (1900-1999)

Cyfnodolyn ysgolheigaidd archaeolegol a hanesyddol a gyhoeddir yn flynyddol yn y Saesneg yw Archaeologia Cambrensis, yn cynnwys adroddiadau ar gloddiadau, adolygiadau o lyfrau a thraethodau hanesyddol. Ceir ynddo hefyd nodiadau cymdeithasol ac adroddiadau ar ymweliadau maes. Mae hanes cyhoeddi y cyfnodolyn hwn yn gymhleth; mae rhifau’r cyfrolau yn anghyson ac mae yna amryw o gyfresi. Rhannwyd y cyhoeddiad yn ddwy gyfres ar gyfer digido: Y Gyfres Gyntaf Cyf. 1 (1846) – Y Bumed Gyfres Cyf. XVI (1899) a’r Bumed Gyfres Cyf. XVII (1900)-heddiw.

Iaith: Saesneg

Manylion Cyhoeddwr: Ffurfiwyd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846 er mwyn archwilio, diogelu a darlunio henebion a gweddillion hanes, iaith, dulliau, traddodiadau, celfyddydau a diwydiannau Cymru a’r Gororau ac i addysgu’r cyhoedd yn y materion hyn.

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1900

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1999