Symud i'r prif gynnwys

Y Mynyddau Mawr. Nid oes yr un genedl wedi sôn mwy am ei mynyddoedd na chenedl y Cymry. Fel cenedl yr ydym yn byw ar odre'r mynyddoedd, ond gwyddom lawer llai nag y dylem amdanynt. Nid ydym yn meddwl cymaint ohonynt ag y mae llawer ymwelydd o'r tu arall i -Glawdd Offa. Canodd ein beirdd am eu prydferthwch; a dyfynwyd o'u gweithiau hwy yn wresog gan ein gwleid- yddion o dro i dro,-ond ysgwn i pa sawl Cymro, ag eithrio ambell fugail neu chwarelwr, sy'n gyfarwydd â'r rhannau hynny o'i wlad sydd y tu allan i ffiniau ei briod fro, ac felly, yn ei dyb ef, "y tu allan i'w gyrraedd." Ar y cyfan, y mae'r Cymro'n fodlon aros yn y cwm, gan adael i estroniaid ddringo a mwynhau'r uchelderau. Yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf yn unig y daeth Cymru yn ganolfan bwysig i'r fenter newydd o ddringo'r creigiau. Un o effeithiau cynnydd diwydiant a thŵf y trefi yn Lloegr yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydoedd troi meddyliau llawer at iachusrwydd a symlder y wlad am ysbrydoliaeth a diddanwch-rhyw ymgais at ddianc rhag blinderau a thrwst oes y peiriannau. I'r mynyddoedd, yn anad dim, y troes dyn am ymwared. "Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd" ydoedd cân y salmydd, ac adleisiwyd ei ddyhead gan y bobl. Aethant yn dorfeydd i'r mynyddoedd, allan o stŵr ac awyrgylch fyglyd y trefi. Flwyddyn ar ôl blwyddyn cynhyddodd eu nifer, ac, oherwydd ei hagosrwydd a'i swyn, dewiswyd Cymru yn un o'r <^otfar»riau-%wysicaf i dreulio gwyliau ynddo. Yn naturiol ddigon, y rhannau hawsaf i'w cyrraedd a deimlodd gyntaf effaith y mudiad hwn. Yn fuan iawn daeth y rhai mwyaf trwyadl eu hymchwil am dawelwch a golygfeydd newydd i adnabod y cymoedd mwyaf anghysbell, gan adael yn unig lethrau serthaf y mynyddoedd heb eu goresgyn. Yr oedd clogwyni mwyaf Eryri, y ddwy Glyder, y Carneddau, a Chader Idris, yn herio'r arloeswyr cynnar hyn. Dyma'r unig fannau y gallent gerdded arnynt a bod yn weddol sicr nad oedd troed dyn wedi eu sangu o'r blaen — ers canrifoedd, o leiaf. Dyma fyd newydd lle gallai'r crwydryn ddod o hyd i'r hen ryddid a berthynai gynt i'w gyndadau. Yn araf ar y dechrau, mentrodd rhai ar glogwyni mawr Gogledd Cymru, ond er syndod mawr iddynt, gwel- sant nad oedd y clogwyni mor serth a diafael mewn gwirionedd ag yr ed- rychent o bell. Yr oedd natur wedi eu cerfio a'u llunio mewn ffurfiau swynol: yr oedd pob clogwyn bron yn cynnwys holltau a hafnau, a gwnaethpwyd y gwaith o'u dringo'n haws gan fod cerrig mân (scree) i'w cael yma ac acw rhwng y mannau mwyaf serth. Rhwng yr hafnau ceid ategau (buttresses), cwbl unionsyth, ambell dro, ond yma eto cafodd y dringwr hyd i agennau bychain y gallai afael ynddynt a thrwy hynny ei dynnu ei hun ar i fyny. Hyd yn oed yn y mannau mwyaf peryglus yr oedd 'sgafelloedd neu silffoedd yn y graig lle gallai orffwys. Naturiol oedd i'r dringwr, am y gwyddai y cyfrif- wyd ei antur yn ffolineb gan y mwyafrif, gymryd pob gofal rhag damwain. Felly, dechreuodd gyda'r hafnau.