Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. I. Golygydd: Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A., Gorff. Rhif 1. Llandudoch, Aberteifì. 1968. CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU (Sefydlwyd yn Salim, y Bala, Awst 10, 1967) Amcanion 1. Astudio emynau Cymraeg a chyfieithiadau i'r Gymraeg, a thonau. 2. Meithrin catholigrwydd ym maes yr emyn yng Nghymru. 3. Hyrwyddo astudiaeth o'r emyn yn y Colegau Diwinyddol a Cholegau eraill sy'n ymdrin ag addoliad. 4. Cyhoeddi ysgrifau, traethodau, gwaith ymchwil ac anerchiadau yn ym- wneud ag emynau a thonau. Dulliau Gweithredu; 1. Cyfarfod Blynyddol yn ystod wythnos yi Listeddfod Genedlaethol, ac anerchiad neu anerchiadau i'w traddodi. 2. Cyhoeddi Bwletin Blynyddol. 3. Trefnu casglu emynau newydd y gellir eu hystyried ar gyfer Llyfrau Emynau'r dyfodol. 4. Cydweithio â Chymdeithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon (1)936) a Chymdeithas Emynau America (1922) ac unrhyw Gymdeithas gyffelyb yn Ewrop. Aelodaeth: Tanysgrifiad o 5/- y flwyddyn. Swyddogion Llywydd Mr. E. D. JONES, B.A., C.B.E., F.S.A., Y Llyfrgellydd Cenedlaethol, Aberystwyth. Ysgrifennydd Yr Athro D. Eirwyn MORGAN, MA., B.D., Brig-y-wawr, Upper Garth Road, Bangor. Trysorydd: Mr. KENNETH Thomas, 62, Dollis Hill Lane, Llundain N.W.2. Golygydd y Bwletin: Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A.