Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. 1. Golygydd: Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A., Gorff. Rhif 3 Llandybïe, Sir Gaerfyrddin 1970 CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU (Sefydlwyd yn 1967) Amcanion 1. Astudio emynau Cymraeg a chyfieithiadau i'r Gymraeg, a thonau. 2. Meithrin catholigrwydd ym maes yr emyn yng Nghymru. 3. Hyrwyddo astudiaeth o'r emyn yn y Colegau Diwinyddol a Cholegau eraill sy'n ymdrin ag addoliad. 4. Cyhoeddi ysgrifau, traetbodau, gwaith ymchwil ac anerchiadau yn ym- wneud ag emynau a thonau. Dulliau Gweithredu: 1. Cyfarfod Blynyddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, ac anerchiad neu anerchiadau i'w traddodi. 2. Cyhoeddi Bwletin Blynyddol. 3. Trefnu casglu emynau newydd y gellir eu hystyried ar gyfer Llyfrau Emynau'r dyfodol. 4. Cydweithio â Chymdeithasau Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon (1936) a Chymdeithas Emynau America (1922) ac unrhyw Gymdeithas gyffelyb yn Ewrop. Aélodaeth Tanysgrifîad 10 5/- y flwyddyn SWYDDOGION Llywydd Mr. E. D. JONES, B.A., C.B.E., F.S.A., Penllerneuadd, North Road, Aberystwyth Ysgrifennydd Yr Athro D. EIRWYN MORGAN, M.A., B.D., Brig-y-wawr, Ffordd Garth Uchaf, Bangor Trysorydd Mr. KENNETH THOMAS, 62 Dollis Hill Lane, Llundain, N.W.2 Golygydd y Bwletin: Y Parch. GOMER M. ROBERTS, M.A., Brynawel, 61 Heol y Blaenau, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin