Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Golygydd: E. WYN JAMES, B.A., Gorff. Rhif I Pen-y-bont ar Ogwr 1978 Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A. Mae'n siwr na fyddai un aelod o'r Gymdeithas Emynau'n hapus heb weld gair o werthfawrogiad o lafur a gofal y Parch. Gomer Roberts fel golygydd cyfrol gyntaf y Bwletin yn y rhifyn hwn sy'n dechrau'r ail gyfrol. Y mae wedi gosod ei stamp ar y Bwletin ac yr ydym oll yn ddiolchgar iddo am ei olygyddiaeth raenus. Yr oedd y Parch. Gomer M. Roberts yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas ac ato ef y troes y Prifathro D. Eirwyn Morgan pan drefnodd pwy oedd i annerch y cyfarfod sylfaenu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 1967. Yn yr anerchiad hwnnw rhoddodd i ni amlinelliad o'r hyn y gallai'r Gymdeithas anelu ato, sef cyhoeddi bwletin; paratoi llyfryddiaeth fanwl a chyflawn o'r holl gasgliadau emynyddol Cymreig; hyrwyddo cyhoeddi ad- argraffiadau o rai o'n clasuron emynyddol; bod yn gefn i gasgliad cenedl- acthol o emynau Cymraeg y gellid eu defnyddio gan bob enwad ac eglwys yng Nghymru; paratoi cyfrol safonol yn Gymraeg ar lun A Dictionary of Hymnology John Julian yn Saesneg; a hyrwyddo cyfansoddi a chyhoeddi emynau newydd ar gyfer cenhedlaeth newydd mewn idiomau newydd. Hyd yn hyn y cymal cyntaf yn unig a ddug ffrwyth, a hynny'n bennaf drwy ymdrechion y Parch. Gomer Roberts ei hun. Yr oedd yn gwbl naturiol a phriodol ei ethol ef yn olygydd i'r Bwletin, a bu'r Gymdeithas yn ffodus iawn i'w gael ef i osod y cyhoeddiad ar sylfaen gadarn. Gyda chyhoeddi'r ddegfed rhifyn penderfynodd y golygydd ddwyn y gyfrol gyntaf i ben a chilio o'r gadair olygyddol. Nid dyma'r unig olygyddiaeth a roes ef heibio yn awr. Er 1948 ef oedd golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, a bu graen anghyffredin ar gylchgrawn y Gymdeithas honno dros y deng mlyn edd ar hugain. Mae'n hyfrydwch i ni oll ddeall fod cynllun ar droed i gyhoeddi cyfrol deyrnged iddo, ac y bydd honno'n cynnwys llyfryddiaeth o'i holl gyfraniadau llenyddol, yn ysgrifau, yn erthyglau, yn bamffledi ac yn gyfrolau swmpus. Bydd y llyfryddiaeth yn agoriad llygaid ar gyfoeth ei gyfraniadau, oherwydd y mae'n un o'n llenorion mwyaf toreithiog. Cafodd emynyddiaeth Ie amlwg yn ei waith, gan gynnwys ymdriniaeth werthfawr ar emynau a chaniadau eraill William Williams. Pantycelyn, yn ail gyfrol Y Pêr Ganiedydd yn 1958. Astudiaeth fywgraffyddol oedd y gyfrol gyntaf yn 1949, ac nid dyna'r cwbl a wnaeth i gyflwyno gwaith Pantycelyn 1 sylw'r genhedlaeth hon. Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru ei argraffiad o ddwy gerdd hir fawr y Pêr Ganiedydd Golwg ar Deyrnas Crist a Bywyd a Marwolaeth TheomemPhus yn 1964. Cafwyd ganddo gyfrolau