Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llys Barn yn ddigon celfydd, a llwydda i gyfleu cyffro ei lawenydd personol am ollyngdod, er gwaetha'r mynegiant gweddol ystrydebol yn nhrydydd pennill yr emyn pedwar-pennill hwn: Mae'n werth cyfeirio at ail bennill ei cmyn i 'Graig yr Iachawdwriaeth' yn rhinwedd y trosiad barddonol ffansi'ol ond effeithiol sydd ynddo. Mae pedwar pennill i'r emyn hwn yng nghasgliad Gee, ond mae'r pennill cyntaf o waith Dafydd William; y tri olaf sy'n eiddo i Robert Roberts. Mae'r pennill cyntaf o'r tri yn sôn am loches holltau'r Graig, a'r olaf am gadernid disyflyd y Graig. Ond dyma'r ail bennill: Mae'r pennill yn dechrau gyda'r cyfeiriad Beiblaidd at y dwr yn ffrydio 0 hollt y graig ar drawiad Moses. Cynydda'r ffrydiau'n afon y Salmydd, sy'n llawenhau Dinas Duw, ac yna fe ychwancga'r emynydd gyfres o faethau mwy blasus yr Efengyl megis mêl, bara, gwin a llaeth, y cyfan yn Ysgryth urol, a'r cyfan yn tarddu o'r Graig ryfeddol hon! Saif yr emynydd nesaf i'w ystyried, sef JOHN ROBERT Jones (1800-81), yn esiampl berffaith o'r emynydd gwerinol ymgyHwynedig a bywiol. Fe'i ganed yn Llanarmon-yn-Iâl yn 1800, ac mae'n debyg ei fod yn perthyn i Ehedydd Iâl. Ond symudodd i Frymbo yn 1834 lle v cyfarfu eglwys Fedyddiedig yn ei gartref. Crydd ocdd ef wrth ei alwedigaeth a chafodd fywyd digon caled, ond cynhyrchodd nifer helaeth o emvnau a'u cyhoeddi mewn dwy gyfrol. Ysgrifennodd ar ddechrau'r gyntaf ohonynt: 'Gan nad wyf ond gweithiwr tlawd, nid oedd genyf oriau hamddenol i'w hebgor at lenydd- iaeth, ond cynifer ag a allwn ladrata oddiar Mr. Cwsg; a grwgnach yn enbyd y byddai hwnw yn aml.'17 Mabwysiadodd y ffugenw Alltud Glyn Maelor. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf yn 1866, ac nid yn 1877 fel y dywed Y Bywgraffiadur Cymreig, ac Y Fodrwy Aur, ac nid Y Fodrwy Arian fel y dywed Y Bywgraffiadur, oedd teitl y gyfrol honno. Mae teitl a dyddiad yr ail gyfrol, Y Rhosyn Diweddaf (1889), yn gywir yn Y Bywgraffiadur, ond gan argraffwasg D. Griffiths, Cwmafon, ac nid Caernarfon fel y mynna Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, y cyhoeddwyd y ddwy gyfrol.18 Roedd cryn ganu ar benillion cartrefoí a gafaelgar Alltud Glyn Maelor yn ystod Diwygiad 1859 a chyhoeddwyd nifer ohonynt yn y gyfrol fechan C'add Duw ei lwyr foddloni, A'r ddeddf foddlonrwydd llawn; Mae'r Nef yn gwaeddi, 'Digon!' A'r ddaear, yn yr lawn! Trugaredd a gwirionedd, Cyfiawnder pur, a hedd, Ar gopa bryn Golgotha, Bar'toisant i ni wledd.15 O! Graig yr lachawdwriaeth! Lie mae ffynnonau byw, A'r afon loew ddisglaer- Llawenydd dinas Duw Mae ynddi fêl, digonedd, A bara ar ein rhan, A gwin i loni'r ysbryd, A Ilaeth i faethu'r gwan.10