Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Rhif 2 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Gorff. 1979 E. T. Davies a Charadog Roberts* Yn ôl gosodiad profoclyd Lytton Strachey yn ei Eminent Vict- orians, mae'n fantais bod yn anwybodus ambell dro er mwyn sicrhau gwrthrychedd. Yn anffodus, mae ein hanwybodaeth am y ddau gerddor dan sylw heddiw yn rhwystr yn hytrach nag yn gaffaeliad, oherwydd dynion cyhoeddus oeddynt, a'u prif gyfraniad wedi ei argraffu ar galonnau pobl yn hytrach na rhwng dau glawr. Aeth Ilawer hanes amdanynt yn angof, ond wrth lwc erys rhai atgofion, a da eu cael mewn print. Hefyd mae digon o'u cyfansodd- iadau naill ai wedi eu cyhoeddi neu ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol i'w gwneud hi'n bosibl rhoi barn newydd ar eu gwaith creadigol. Roedd egni a brwdfrydedd cerddorol aruthrol yn bodoli yn nechrau'r ganrif hon yn ardaloedd diwydiannol y de a'r gogledd. Cymerwch y dyfyniad hwn o'r Musical Times (Medi 1903) er enghraifft: The International Male-Voice Choir competition arranged to take place at Cardiff on Boxing Day is a bold experiment We fear that the sacrifice of the time-honoured feast of Christmas, on which day or night choirs from a long distance must travel, will be a bar to success. Anhygoel meddwl mai llwyddiant fu'r ŵyl wedi'r cwbl, ac roedd bri mawr yn gyffredinol ar gyngherddau dydd Nadolig ledled Cymru. Oes wahanol iawn, felly, i'r un bresennol, ac yn yr oes honno y ganwyd ac y magwyd E. T. Davies a Charadog Roberts. Fe'u magwyd mewn cymdeithas gerddorol amatur frwdfrydig, ac i raddau roeddynt ill dau yn gaeth iddi. Evan Thomas Davies (1878-1969) Dysgodd E. T. Davies sol-ffa, ond yn ôl David Morgans yn Music and Musicians of Merthyr and District (1922), nid oedd yn orddibynnol ar y dull hwnnw. Y dylanwad mawr cynnar arno oedd Harry Evans, Merthyr (1873-1914), gwr radical a goleuedig ac yn un reit feirniadol o'r sefyllfa gerddorol ar y pryd. Dywed y Musical Times (Hydref 1904): '[Harry Evans] is by no mecms an uncritical Crynodeb o anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yng Nghapel Presbyteraidd Park End, Llanishen, 9 Awst 1978, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.