Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

yn Llyfr Emynau y Methodistiaid (1927), a'r rhan fwyaf ohonynt yn dal i gael eu canu, yn enwedig wrth gwrs 'O! anfon Di yr Ysbryd Glân'. Hynny yw, y mae'n briodol anrhydeddu John Hughes am y cwbl y llwyddodd ef ei hun i'w gyflawni yn ystod oes faith a llafurus. Ac wrth gwrs dyma'r Ile, yn anad yr un Ile arall yn y byd, y mae'n briodol ei goffáu. Ond y mae yna ail reswm pam y mae'n briodol inni ddathlu ar yr achlysur hwn. Oherwydd nid unigolyn gweithgar a llwyddiannus (mewn termau ysbrydol er nad mewn termau materol) yn unig oedd John Hughes, ond hefyd cynrychiolydd cymdeithas hynod iawn. Fe gynhyrchodd Methodistiaeth Sir Drefaldwyn do ar ôl to o arweinwyr gwirioneddol nodedig. Ymhlith cyfoedion John Hughes yr oedd Abraham Jones Llanfyllin, William Jones Dolyfonddu ac Evan Griffiths Meifod. Ond efallai mai'r ddau hynotaf o blith ei gyfoedion oedd John Davies, yr oedd John Hughes wedi bod yn brentis i'w dad, a fu'n genhadwr arloesol yn Tahiti am 55 o flynyddoedd; ac wrth gwrs Ann Thomas Dolwar Fach (Ann Griffiths wedyn), emynyddes fwyaf Cymru. Fe fu John Hughes yn gyfaill ac yn lladmerydd i bob un o'r rhain. Ef a'i wraig Ruth, fel sy'n hysbys, a ddiogelodd emynau Ann Griffiths. Ei waith ef, i raddau pell, sy'n ei gwneud yn bosibl inni sylweddoli Ile mor freintiedig oedd y parthau hyn-unwaith eto, yn ysbrydol yn hytrach nag yn faterol- ddwy ganrif yn ôl. Ond y mae yna drydydd rheswm pam y mae'n briodol inni lawenhau'r prynhawn yma. Y mae John Hughes yn rhywbeth mwy nag unigolyn talentog, yn rhywbeth mwy na chynrychiolydd a lladmerydd cenhedlaeth ddisglair iawn o arweinwyr crefyddol. Y mae hefyd yn enghraifft deg o'r grymusterau a drawsnewidiodd fywyd Cymru gyfan yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Yn ystod yr hanner canrif yna fe enillwyd Cymru, i raddau helaeth, at Grist. Nid gwaith y Methodistiaid Calfinaidd yn unig oedd hwn, ond gwaith yr enwadau eraill hefyd, gan gynnwys yr Eglwys Sefydledig. Yn 1846 fe wnaeth Robert David Thomas 'Iorthryn Gwynedd' arolwg o'r ddarpariaeth addysgol yn y parthau hyn ar gyfer Comisiynwyr y Llyfrau Gleision ar addysg yng Nghymru. Ar gyfer plwyfi Llanfair Caereinion, Castell Caereinion a Manafon y mae canlyniadau'r arolwg ar gael. O edrych drwyddynt y mae'n syfrdanol gymaint o Feiblau a llyfrau emynau a llyfrau crefyddol eraill a oedd gan bobl gyffredin yr ardal hon yn eu meddiant. Roedd John Hughes a'i genhedlaeth wedi gwneud eu gwaith yn ardderchog iawn. Ond hen hanes ydyw hwn, meddech chwi. Ie, ond 'does dim rhaid