Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANES WESLEAETH YN LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT Gan y Parch. E. H. GRIFFITHS, B.A., B.D., Bae Colwyn. ""p\EUPARTH gwaith yw ei ddechrau meddai rhyw hen ddoethur celwyddog', chwedl yr Athro R. T. Jenkins yn ei gyfrol Ar Ymyl y Ddalen. Peth cymharol hawdd, medd ef, yw dech- rau, eithr cynnal yw'r gamp. Y mae llawer o wir yn hyn, er na fynnai ef ei hun ei fod yn dweud y gwir i gyd. Nid gwaith hawdd oedd dechrau unrhyw achos Ymneilltuol yng Nghymru, yn enwedig mewn ambell Ie fel Llanrhaeadr-ym-Mochnant, pentref o enwog- rwydd a thraddodiad Eglwysig cryf a hynafol. Y cyntaf o'r enwadau Ymneilltuol i fentro megis i'r Llan oedd y Wesleaid, netŵr Welsh lions fel y'u llysenwyd gan rywun yn nech- rau'r ganrif ddiwethaf. Ffaith bwysig iawn yw hon i'r neb a fyn esbonio hanes a chryfder Wesleaeth yn y Llan. Y Wesleaid oedd yr Ymneilltuwyr cyntaf i fentro yno, a'r achos cyntaf mewn pentref fel rheol a gaiff y cyfle gorau i wreiddio. Llwyddodd y Dr. Thomas Coke yng Nghynhadledd 1800 i gael dau genhadwr i Gymru: Owen Davies a John Hughes. Hannai rhieni Owen Davies o Lanrhaeadr, a gall y Llan felly hawlio rhyw gyfran o'r rhamant sy'n gysylltiedig â dechreuad Wesleaeth Gym- reig. Eithr os dod i fyny o'r Deheudir i'r Gogledd a wnaeth y Bedyddwyr, yr Annibynwyr a'r Methodistiaid, dod i lawr o'r Gog- ledd a wnaeth Wesleaeth. Eithr nid Owen Davies na John Hughes a'i dug yno; digon prin y buasent hwy yn ddigon o Gymry. Yn wir, nid yw'n hollol glir pwy oedd y gwron cyntaf i fentro i'r Llan dros yr enwad. Yn ôl Richard Jones, Glanaber (yn rhifyn cyntaf Yr Hysbysydd, cylchgrawn y gylchdaith, 1891), dywaid rhai mai William Davies, Croesefa, ac eraill mai John Morris. Ond nid oes amheuaeth o gwbl ynglŷn ag ymweliad pwysig John Bryan ar Awst 29, 1801. Ganed John Bryan yn Llanfyllin ym 1771. Cafodd droedigaeth yn sir Gaer yn 1798, dechreuodd bregethu gyda'r Wes- leaid yn 1800, a'i ordeinio yn 1801. Bu yn y gwaith Cymraeg tan 1815, yn gymorth mawr i Owen Davies a John Hughes, nad oedd y naill na'r lIalI ohonynt yn Gymry da. Un bychan iawn o gorffol- aeth oedd Bryan, ond nid wrth ei faint y mae mesur pregethwr, ac yr oedd ef yn sicr ddigon yn bregethwr gwreiddiol ac effeithiol. Gŵr hynod ddewr hefyd yn anad dim. Teyrn y pentref ar y pryd, ac Ustus Heddwch, oedd y person, Robert Jones. Aeth John Bryan o ddrws i ddrws i gasglu cynull- eidfa, ond gan gymaint oedd ofn y person, ychydig o bobl a ddaeth ynghyd. Cymerodd y pregethwr hwynt dros y bont i sir Drefaldwyn,