Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ADOLYGYDD a'r BEIRNIAD: Eu CYNNWYS A'U CYFRANWYR. Gan Huw Walters. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1996. Tt. vii, 131. £ 7.00. Gellid yn hawdd gyffelybu'r profiad o bori trwy gylchgronau niferus y ganrif ddiwethaf heb gymorth mynegai i'r profiad o grwydro dinas fawr, ddieithr heb gymorth map. Dyna paham y bydd croeso gan ymchwilwyr profiadol ac amhrofiadol fel ei gilydd i'r gyfrol deipiedig hon a gyhoeddwyd yn fewnol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac a luniwyd gan Huw Walters, gwr y mae ei wybodaeth am gynnwys cylchgronau Cymraeg a Chymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn destun rhyfeddod. Ac er bod Dr Walters yn cydnabod mai cylchgronau a anghofiwyd yw'r ddau hyn y mynegeiodd eu cynnwys, fe welir eu bod, oherwydd natur y cyfraniadau a gyhoeddir ynddynt, ynghyd ag amlygrwydd rhai o'r awduron a gyfrannai iddynt, yn gyhoeddiadau o bwys sy'n dadlennu llawer am ddiwylliant a meddwl y Cymry yn oes Victoria. Dau gylchgrawn enwadol oedd Yr Adolygydd a'r Beirniad, sef ateb yr Annibynwyr i gylchgrawn llwyddiannus y Methodistiaid, Y Traethodydd. Sefydlwyd Yr Adolygydd yn 1850, ond oes fer a gafodd. Gorfodwyd ei berchenogion i ddirwyn y cyhoeddiad i ben yn 1853 oherwydd trafferthion ariannol. Er gwaethaf hynny, teimlai rhai o hoelion wyth yr enwad awydd i barhau i gyhoeddi cylchgrawn, ac erbyn 1859 fe lansiwyd ei olynydd, Y Beirniad. Bwriadwyd iddo fod yn gyfnodolyn tra dyrchafol ei gynnwys a'i genhadaeth: rhoddai lwyfan i erthyglau a thrafodaethau ar bynciau athronyddol, diwinyddol, gwyddonol, hanesyddol a llenyddol, ond er gwaethaf ehangder ac amrywiaeth ei gynnwys, mae'n ymddangos mai cymharol gyfyng oedd ei gylchrediad a'i apel. Cyhoeddwyd ei rifyn olafym mis Hydref 1879. Patrymwyd y gyfrol hon ar gyfrolau Walter E. Houghton, The Wellesley Index to Victorian Periodicals, 1824-1900. Yn dilyn y Rhagymadrodd, ceir rhestrau o erthyglau'r ddau gyhoeddiad yn 61 trefn y rhifynnau chwarterol (132 o erthyglau yn Yr Adolygydd, ac 840 yn Y Beirniad), ac yna restrau o enwau'r cyfranwyr ynghyd a mynegeion i gynnwys y ddau gylchgrawn. Cynhwysa'r adran olaf ysgrifau bywgraffyddol cryno a chyfleus. Gan y cyhoeddid yr erthyglau'n ddienw, bu'n rhaid i Dr Walters geisio darganfod pwy oedd yr awduron drwy gywain gwybodaeth o nifer o ffynonellau, megis y copïau o'r Adolygiad sy'n cynnwys enwau'r awduron mewn llawysgrifen a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Ganolog Caerdydd, a'r rhediad cyflawn o'r Beirniad sy'n cynnwys enwau'r cyfranwyr yn llaw'r golygydd olaf, John Bowen Jones. I raddau helaeth iawn, adlewyrchu'r ddarpariaeth addysgol a geid yn y colegau enwadol yn Aberhonddu, Caerfyrddin a'r Bala a wna cynnwys y