Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyhoeddwyd cyf. V, VI, VII ar ôl marwolaeth George Lewis gan Edward Davies (mab yng nghyfraith George Lewis) a George Lewis (meddyg yn Wrecsam a mab George Lewis), ac y mae'n eglur mai Edward Davies ysgrifennodd yr esboniadau ar rai o'r Epistolau ac ar Lyfr Datguddiad. 3. Amryw lyfrau bychain I. Cyfiawnhad trwy ffydd neu draethawd yn gosod allan y dull a'r amser y mae Cyf- iawnder Crist yn cael ei weithredol gyfrif i bechadur. (120) II. Galwad ar Ieuengctyd i gofio eu creawdur. (24) III. Athrawiaeth Etholedigaeth wedi ei gosod allan mewn pregeth3 (1 Thess. 14). (47) IV. Henuriaid yn mhob eglwys neu sylwedd pregeth ar Actau 14*3. V. Buddioldeb dwyfol wirioneddau, neu sylwedd tair pregeth ar Actau 203°. (47) VI. Arweinydd i'r Anwybodus, yn cynnwys cyfar- wyddiadau i'r anllythyrennog i ddysgu darllen. (48) VII. Catecism athrawiaethol ac ymarferol. (32) VIII. Galwad gyffredinol yr EfengyL IX. Gorfoledd Crist yn y nef. X. Catecism y Gymanfa. XI. Catecism eglwysig, neu hyfforddiad Ysgryth- yrol mewn perthynas i natur eglwys Efen- gylaidd, ei hawdurdod a'i rhagoriaethau ei swyddogion, ei disgyblaeth. XII. Mawl o enau plant bychain neu gasgliad bychan o hymnau Ysgolion Sabbothol allan o waith Isaac Watts, D.D. (35 o Emynau). XIII. Arweinydd i blentyn. XIV. Gogoneddus ddirgelwch trugaredd Duw. 3 Traddodwyd y bregeth ym Methania, Sir Gaerfyrddin, Mehefin 1, 1809.