Symud i'r prif gynnwys

Y COFIADUR George Lewis, 1763-1822. Caernarfon, 1784-1794. Llanuwchllyn, 1794-1812. Gwrecsam, 1812-1816. Llanfyllin, 1816-1821. Drefnewydd, 1821-1822. GÁNED George Lewis mewn lle o'r enw Y Coed, heb fod yn nepell o Gaerfyrddin. Mwy na thebyg mai rhyw fwthyn bychan oedd hwn rhwng St. Clêr a Threlech. Symudodd ei rieni i Ie o'r enw Y Fantais, yn nes i bentref Trelech. Ond ni wyddys heddiw am y naill aneddle na'r llall. Aelodau o'r eglwys sefydledig, ar y cychwyn, oedd ei rieni, ond, yn ddiweddarach, daeth y tad yn aelod o'r eglwys Annibynnol yn Nhrelech. Ym- ddengys i George Lewis gael manteision addysgol eithr- iadol. Sonnir am offeiriaid Llanddowror a Threlech, a hefyd am Owen Davies, gweinidog yr Eglwys Annibynnol yn Nhrelech, fel athrawon. Bu am dymor yn ysgol John Griffiths, Gland-wr. Daeth yn aelod o Eglwys Annibynnol y Graig, Trelech, pan oedd yn un ar bymtheg oed. Dyn ieuanc astud, darllengar, crefyddol ydoedd. Yn fuan ar ôl iddo ymaelodi, cahfu'r gweinidog a'r eglwys ddeunydd pregethwr yn yr hogyn efrydgar, a chadarn- hawyd ei ogwydd ei hun gan gymhelliad yr eglwys, i ddechrau ei ddawn fel pregethwr. Bu am ychydig amser yn ddisgybl i David Davies Castell Hywel, Ceredigion- un o athrawon hynotaf yr oes. Derbyniwyd ef i'r Athrofa Ymneilltuol yng Nghaerfyrddin pan oedd ychydig dros ddeunaw oed ac arhosodd yno am dair blynedd. Llywydd y coleg ar y pryd oedd Robert Gentleman, a,{ gyd-athro oedd Benjamin Davies. Der- byniodd Robert Gentleman alwad o'r Eglwys Bresbyter- aidd yn Kidderminster yn y flwyddyn 1784. Dichon