Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y COFIADUR Philip Pugh a'i Ragflaenwyr yng nghanolbarth Sir Aberteifi Y GWYS Gynnar.1 PWL yw'r golau a ddisgyn ar ein maes cyn y Rhyfel Cartrefol a gweithrediadau'r Werin-lywodraeth. Gwyddom i Esgob Tŷ Ddewi gael ei boeni gan afreoleidd-dra rhyw dri o w-yr a wyrai at Biwritaniaeth tua 1634. Rhoed geiriau'r Archesgob Laud gan Mr. Shankland yn y rhifyn cyntaf o'r COFIADUR, a chan nas rhoddodd yn fanwl gywir, fe dalant am eu lle unwaith eto. The bishop [of St. David's] hath caused two to be questioned in the high Commission, and suspended one Roberts, a lecturer, for inconformity. A oedd a fynno'r rhain rywbeth â Sir Aberteifi nid oes gennym ond dyfalu, ond pan gymerth y werin-lywodraeth at newid crefydd yn ffafr Piwritaniaeth drwy ddiarddel offeiriaid ac ysgolfeistri, a gosod eraill yn eu lle, fe geir iddynt osod un Evan Roberts i ofalu am blwy Llan- badarnfawr a'r cyffiniau i bregethu yno'n Gymraeg ac yn Saesneg, ac i dderbyn cyflog o gan punt y flwyddyn am ei lafur. Myn Mr. Shankland, a dilynwyd ef gan haneswyr eraill, mai'r un yw'r Evan Roberts hwn â'r one Roberts uchod a boenai'r esgob. Fodd bynnag, y mae'n amlwg fod y gwr a gafodd ofal Llanbadarn yn 1646, yn meddu dysg a dawn lled eithriadol, a bod i'r gymdogaeth bwysigrwydd arbennig yng ngolwg y Pwyllgor a drefnai lanw'r bywiolaethau o dan y werin-lywodraeth. Yn 1650, cafwyd Deddf y Taenu, a lleygwr amlwg heb fod nepell o Lanbadarn yn Gommissioner am rhyw dair blynedd ar y Pwyllgor a weithredai'r ddeddf. Y