Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYDDIAU CYNNAR ANNIBYNIAETH YM MRYCHEINIOG A MAESYFED WRTH gychwyn, rhaid yw imi gydnabod fy nyled drom i'r Dr. Thomas Richards, Llyfr- gellydd Coleg y Brifysgol, Bangor. GWyr pob chwilotwr am ei weithiau safonol ar yr hanner can mlynedd cyntaf yn hanes Ymneill- tuaeth Cymru, ac ni allaf innau fesur fy nyled iddo. Heblaw hyn, bu mor garedig â rhoi benthyg trawsysgrifau gwerthfawr imi. 0 ganol ei brysur- deb, gwnaeth Mr. Timothy Lewis gopi imi o rannau o Photostat yr Ilston Records sydd yng nghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol-ni allai neb ond gŵr o'i ddawn eu dehongli. Bu Mr. George Thomas o Goleg y Saint Luc a Ioan drosof yn fynych yn yr Amgueddfa Brydeinig. Caniatawyd imi gyda pharodrwydd gan Syr John Lloyd, Dinas, Aber- honddu, i archwilio tair cyfrol o gofnodion Llys Archddiaconiaeth, Aberhonddu, 1660-85 (rhan- nau),-ei eiddo personol ef ydynt. Rhoed imi gyfle hefyd gan Mr. Jolly, Clerc Heddwch Brych- einiog, i droi dail Cofnodion Sesiwn Chwarter y sir (The Book of Orders). Bûm ar ofyn llu o gyfeill- ion, rhy aml ydynt i'w henwi yma, ond cyflwynaf iddynt oll fy niolch diffuant, a dymunaf i'r gwaith hwn aros fel ANGHYDFFURFIWR GOLEUEDIG Y COFIADUR RHAGAIR OFFRWM BYCHAN I GOFFADWRIAETH FY NHAD CRISTION GLOYW, EGLWYSWR EGWYDDOROL, AC